Part of the debate – Senedd Cymru am 5:23 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Rwyf i hefyd yn falch iawn ein bod yn cael y ddadl hon cyn i'r gyllideb ddrafft gael ei chyhoeddi. Mae hyn yn golygu nad ydym ni'n ymateb i gyllideb ddrafft, ond yn cynnig awgrymiadau i'w hystyried. Mae hefyd yn golygu y gall pleidiau gwleidyddol eraill lunio eu cynigion cyllideb eu hunain. Yn anffodus, hyd yn hyn, y cyfan a gawn yw galwadau am drethi llai yn fan hyn a chynnydd yn y gwariant yn y fan yna. A gaf i annog y Ceidwadwyr a Plaid Cymru i lunio cyllideb fel y gallwn ni ei thrafod yn rhan o broses y gyllideb, yn hytrach na gwneud dim byd ond dweud, 'Rydym ni eisiau trethu'n llai a gwario'n fwy'? Nid oes angen iddi fod yn ddim mwy na phrif symiau ar gyfer y prif feysydd gwariant ac unrhyw newidiadau mewn trethiant.
Bydd cyllideb eleni yn wahanol oherwydd effaith COVID arni. Mae COVID wedi newid y ffordd y mae llawer ohonom ni yn gweithio ac yn siopa. A yw hyn yn newid tymor byr? Ydy pobl yn mynd i roi'r gorau i siopa ar-lein a mynd yn ôl i'r siopau? Ydy pobl yn mynd i beidio â gweithio gartref a dychwelyd i'w swyddfeydd? Nid ydym ni'n gwybod. Rwyf i'n disgwyl y bydd rhai yn gwneud ond y bydd rhai na fyddan nhw'n gwneud, ond yn sicr bydd yn wahanol. Mae'r sector manwerthu wedi wynebu ailstrwythuro busnes ar raddfa fawr—85,000 o swyddi wedi eu colli, dros 9,000 o swyddfeydd wedi eu cau—ond er gwaethaf hyn, mae gwerthiannau ar-lein yn parhau i dyfu, gan gyrraedd 21 y cant o gyfanswm y gwerthiannau. Yn yr un modd, o ran gweithio gartref: tuedd o dwf araf mewn gweithio gartref i naid anferth yn ystod y cyfyngiadau symud.
Mae perygl y bydd y Cynulliad yn cytuno ar gyllideb a fydd yn gweithio ar gyfer y llynedd, ond na fydd yn gweithio ar gyfer eleni—rydym ni'n datrys problemau y llynedd. Y peth cyntaf am gyllideb yw'r hyn y mae'n ceisio ei gyflawni, ac rwyf i'n dweud ein bod ni eisiau cenedl werdd, ffyniannus ac iach. Wel, ni fyddwch yn pleidleisio yn erbyn hynny, na fyddwch? Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud—. Beth ydym ni'n mynd i geisio ei wneud a beth ydym ni'n anghytuno ag ef?
A gaf i ddechrau gyda'r economi? Mae darparu cymhellion ariannol i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru wedi arwain at sawl canlyniad anhapus. Os oes rhaid i chi lwgrwobrwyo cwmni i ddod yma, gallaf i ddweud wrthych chi: nid ydyn nhw'n dymuno dod. Dim ond oherwydd eich bod chi'n eu llwgrwobrwyo maen nhw'n dod ac os ydyn nhw'n cael gwell cynnig yn rhywle arall, maen nhw'n gadel. Rydym ni i gyd yn gwybod am enghreifftiau o hyn. Roedd Vincent Kane yn arfer siarad am 25 i 30 munud ynghylch yr holl gwmnïau a ddaeth, ond na wnaeth greu'r swyddi y gwnaethon nhw eu gaddo ac yna gadael yn y pen draw.
Rwy'n cofio Gweinidog yn y Llywodraeth yn dweud bod gennym ni'r cymhellion ariannol gorau ar gyfer mewnfuddsoddi—mae'n wir mae'n debyg. Roedden nhw'n ystyried hynny yn arwydd mawr o gryfder—ni oedd y gorau. Roeddwn i yn ei ystyried yn arwydd o wendid. Yn syml, os oes rhaid i chi gynnig cymhelliad ariannol mwy na neb arall, yna, pan ddaw rhywun, byddant yn gadael pan fydd rhywun arall yn gwneud cynnig gwell.
Pa fath o gymhellion ariannol ydyn nhw'n eu rhoi yng Nghaergrawnt? Pa fath o gymhellion ariannol ydyn nhw'n eu rhoi yn Silicon Valley? Nid ydyn nhw, oherwydd bod pobl yn dymuno mynd yno. Ein problem ni yw bod angen i ni greu economi, mae angen i ni greu gweithlu medrus er mwyn i bobl ddymuno dod yma. Byddaf yn rhoi dwy enghraifft i chi. Ydych chi'n cofio LG yn y 1990au? Cafodd cyllideb gyfan Awdurdod Datblygu Cymru ei defnyddio i ddod ag LG yma. Ni fu diweddglo da iawn i'r hanes, na fu? Cymharwch hynny ag Admiral—cwmni newydd drwy gyllid egino. Roedd diweddglo da iawn i'r hanes yna. Mae angen i ni feithrin ein heconomi ac i wneud hynny mae angen i ni fuddsoddi mewn addysg a defnyddio llwybrau ymchwil a phrifysgolion i dyfu'r economi. Dyna beth sy'n digwydd yng ngweddill y byd. Pam nad ydym ni'n ymuno yn y drefn, wn i ddim.
Arian sy'n cael ei wario ar addysg yw'r gwariant datblygu economaidd gorau o bell ffordd. Gyda gweithlu medrus a hydddysg, bydd cwmnïau yn dymuno dod yma, heb i ni orfod dweud, 'Dyma'r arian.'
Mae nifer o bethau da wedi eu gwneud yn ystod argyfwng COVID. Yn gyntaf, mae digartrefedd ar y stryd wedi diflannu bron yn llwyr. Nid wyf i, na llawer o bobl eraill yn y Siambr hon, yn dymuno iddo ddychwelyd ar ôl COVID. Rydym ni wedi cael dadleuon hir yn y fan yma, yn drawsbleidiol, gan eich cynnwys chi, Llywydd dros dro, ynghylch y ffaith nad oes arnom ni eisiau digartrefedd ar y stryd ac y dylem ni fod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Wel, daeth COVID, ac fe lwyddon ni i wneud hynny. Allwn ni ddim mynd yn ôl. Os gallwn ni fynd i'r afael â digartrefedd ar y stryd yn ystod argyfwng COVID, yna gallwn ni fynd i'r afael ag ef mewn cyfnod nad yw'n argyfwng.
Yn ail, rydym ni wedi darparu bwyd i blant sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau. Rwyf i wedi bod yn gofyn am hyn yr holl amser rydym ni wedi bod yma. Mae hyn wedi digwydd eleni. Mae'n rhaid iddo barhau.
Yn drydydd, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yn ystod y pandemig yw pa mor bwysig yw llywodraeth leol a pha mor dda yw llywodraeth leol a sut y mae llywodraeth leol wedi perfformio'n eithriadol o dda yn ystod hyn.
Rhagfynegiadau: y gyllideb iechyd fydd yn cael y cynnydd mwyaf a'r lleiaf o graffu o ran canlyniadau. Beth fydd iechyd yn ei wneud gyda'r arian ychwanegol? Mae angen i ni gael canlyniadau iechyd a gwelliannau iechyd. Dylai pob ymyriad wella bywyd y claf. Yn rhy aml, mae llawdriniaeth yn llwyddiannus, nid yw'r claf yn gallu mynd adref, felly mae'n gorfod mynd i gartref nyrsio. Nid wyf i'n siŵr mai llwyddiant yw hynny, ond rwy'n siŵr y bydd ysbytai a meddygon ymgynghorol yn dweud mai llwyddiant ydyw oherwydd bod y llawdriniaeth wedi gweithio.
Yn olaf, mae angen i ni warchod cynefinoedd a'r amgylchedd, ac mae llawer o hyn yn ymwneud llawer yn fwy ag agwedd nag arian. Gellir gwneud llawer o'r pethau hyn gydag ychydig iawn o arian, ond ymrwymiad gwirioneddol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau meddwl ar y trywydd hwnnw.