17. Dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: 'Effaith COVID-19 ar blant a phobl ifanc'

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:40 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:40, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae nifer y plant agored i niwed sy'n mynychu'r ysgol wedi ei drafod yn helaeth yn ystod y ddadl hon ac mae wedi cynyddu wrth i'r cyfyngiadau symud fynd yn eu blaen. Mae hynny'n rhywbeth nad yw'n unigryw i Gymru, ac mae ein profiad ni o argyhoeddi rhieni plant agored i niwed i anfon eu plant i'n hybiau yn un a gafodd ei adlewyrchu yng Ngogledd Iwerddon, Lloegr a'r Alban. Mae'n rhaid i mi gydnabod iddo gymryd hyd nes yr oeddem ni'n gallu agor pob ysgol i ni weld y niferoedd yn cynyddu'n sylweddol, a dyna oedd un o fy mhrif resymau dros agor pob ysgol i ailgydio, dal i fyny a pharatoi ar ddiwedd y tymor hwn.

Hoffwn i egluro, i Hefin, fod gennym ni ddiffiniad clir iawn o'r hyn yw bod yn agored i niwed yn ystod yr argyfwng hwn—diffiniad a gafodd ei ehangu ac a dderbyniodd gefnogaeth lawer o'r rhanddeiliaid allweddol a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, o ran sut yr oeddem ni wedi nodi plant a oedd yn cael derbyn cymorth gan yr hybiau.

Rwy'n cydnabod bod rhai o'n hysgolion arbennig—ein hysgolion anghenion addysgol arbennig—wedi wynebu heriau penodol, ond hoffwn i hefyd dynnu sylw at yr arferion da iawn. Mewn llawer o ardaloedd lleol parhaodd yr ysgolion arbennig ar agor, gan roi cymorth i'r plant hynny mewn lleoliadau cyfarwydd. Mae'n drueni bod Mr Melding yn swydd y Llywydd dros dro y prynhawn yma, oherwydd bod ganddo enghreifftiau da iawn o ysgol, y mae ganddo gysylltiad agos â hi, sy'n gofalu am blant agored iawn i niwed, sydd wedi parhau ar agor drwy gydol y pandemig hwn ac sydd wedi cefnogi rhieni i raddau rhagorol.

I helpu ysgolion gyda'u swyddogaethau eraill yn ystod y cyfnod hwn, rydym ni wedi darparu canllawiau ar barhad dysgu gyda'n dogfen 'Cadw'n ddiogel. Dal ati i ddysgu'. Roedd y cynllun cynhwysfawr hwn yn ystyried darpariaeth, nid yn unig i'r plant hynny a fyddai'n mynychu ysgol brif ffrwd, ond hefyd i blant a fyddai fel arall yn cael eu haddysgu mewn lleoedd heblaw am yn yr ysgol.

Fe wnaethom ni hefyd geisio mynd i'r afael ag allgáu digidol, darparu adnoddau dysgu ychwanegol a chanllawiau i rieni ar y ffordd orau o gefnogi eu plant yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n siŵr y bydd llawer o gyd-Aelodau wedi gweld y straeon yn Lloegr a'r Alban ynghylch y miliynau sydd wedi eu gwario ar liniaduron na wnaethon nhw gyrraedd y dysgwyr mewn gwirionedd cyn gwyliau'r haf. Ac rwy'n falch iawn, o ganlyniad i'r ffordd arloesol y gwnaethom ni fuddsoddi ein cyllid, a gwaith caled, unwaith eto, yr ysgolion a'r awdurdodau lleol, fod hynny yn llawer llai o broblem yma yng Nghymru, a'n bod ni wedi gallu sicrhau cymorth yn gyflym i ddysgwyr sydd wedi eu hallgáu yn ddigidol, gan ofalu eu bod yn cael y pecyn yr oedd ei angen arnyn nhw i barhau i ddysgu.

Wrth gwrs, roeddem ni'n ffodus iawn i fod yn gweithio ar sylfaen gref gyda'n platfform dysgu ar-lein, Hwb, sy'n darparu mynediad heb ei ail i ystod eang o offer a chynnwys digidol dwyieithog i gefnogi trawsnewidiad addysg ddigidol. Mae mewngofnodi i Hwb drwy gydol y cyfnod hwn wedi bod yn anhygoel, ac yn yr un modd, yr ymgysylltiad proffesiynol â chyfleoedd dysgu proffesiynol sydd wedi eu darparu gan ein gwasanaethau gwella ysgolion rhanbarthol er mwyn sicrhau y gallai ein gweithwyr proffesiynol ei ddefnyddio i'r eithaf hefyd.

O ran bod yn agored i niwed, unwaith eto, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i warantu darpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg, yn ystod gwyliau hanner tymor y Sulgwyn a thros wyliau'r haf. Ac fe wnaethom ni'r penderfyniad hwnnw oherwydd ein bod ni'n gwybod mai hwnnw oedd y penderfyniad iawn, yn hytrach na chael ein gorfodi i wneud hynny gan ymgyrch proffil uchel.

Ond rwy'n gwybod na fu'n hawdd trosglwyddo i'r ysgol gartref ac i ddysgu ar-lein, ac i rai dysgwyr a'u rhieni a'u gofalwyr, y mae wedi cyflwyno anawsterau penodol. Ar ben hynny, fel yr ydym ni wedi cael gwybod o arolwg y comisiynydd plant, mae llawer o ddysgwyr wedi bod yn pryderu am golli ysgol, am arholiadau a chanlyniadau, am fethu'r gweithgareddau diwedd blwyddyn hynny, ffarwelio â'u ffrindiau ac yn syml y strwythur hwnnw sydd mor bwysig iddyn nhw. Ond lliniaru effaith y pandemig hwn sydd wedi bod yn brif ffocws i Lywodraeth Cymru.

Os caf i droi at fater iechyd meddwl, sef canolbwynt y ddadl y prynhawn yma, a hynny'n briodol hefyd, wrth ragweld y cynnydd yn y galw am adnoddau iechyd meddwl, rydym ni wedi darparu arian ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl plant, yn ogystal â'r buddsoddiad a wnaethom ni mewn gwasanaethau cwnsela a chymorth iechyd meddwl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Ac rwyf i, yn wir, yn falch iawn ein bod ni bellach yn ymgynghori ar ein dull ysgol gyfan. Mae'r gwaith hwnnw wedi ei ddiwygio i adlewyrchu sefyllfa COVID-19, ac rwy'n edrych ymlaen at ymateb da i'r ymgynghoriad sydd ar waith ar hyn o bryd.

A gaf i ddweud ychydig bach, yn fyr, am ein gwasanaethau ieuenctid a symudodd i ffordd newydd o weithio ac a ddatblygodd arfer arloesol newydd, unwaith eto yn gyflym, ac sydd wedi parhau i gefnogi plant ar hyd a lled Cymru, er eu bod yn gwneud hynny ar ffurf wahanol iawn? Ac mae'r cymorth hwnnw wedi bod yn amhrisiadwy.

Rwy'n cofio, Llywydd dros dro, gweld trydariad gan weithiwr ieuenctid ar ddechrau'r argyfwng hwn. Roedd hi wedi bod yn cynnal archwiliad wythnosol gydag un o'r bobl ifanc—disgybl oedran cynradd yr oedd hi'n gweithio gydag ef. Gofynnodd i'r bachgen ifanc a oedd yn mynd i fod yn iawn, ac a fyddai ganddo ddigon i'w fwyta a phethau i'w gwneud. Atebodd a dweud, 'Nid oes angen i chi boeni amdanaf i—rwy'n mynd i fod yn iawn. Rwy'n un sydd wedi ei ddewis i fod yn y grŵp gwerthfawr, felly rwy'n mynd i'r ysgol bob dydd.' Ac rwy'n credu bod hynny yn wych bod yr ysgol wedi gallu nodi bod y bachgen ifanc hwnnw yn werthfawr yn hytrach nag yn agored i niwed, a sicrhau ei fod yn parhau i gael mynediad, nid yn unig i'r hyb, ond i'w weithiwr ieuenctid a oedd yn ei gefnogi.

Fe wnes i gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd pob disgybl yn gallu dychwelyd i'r ysgol ym mis Medi, ac mae hynny o ganlyniad i waith caled ac ymdrechion pobl Cymru. Erbyn hyn rydym ni'n gweld cyfraddau trosglwyddo cymunedol yn gostwng, ac mae'r ymdrech honno a'r gwaith caled a'r aberth wedi ein galluogi i wneud y cyhoeddiad hwnnw. Ond rwy'n cydnabod bod angen cynllunio hyn ac y bydd angen cymorth ar ysgolion a disgyblion. A bydd gan ysgolion hyblygrwydd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd i roi blaenoriaeth i rai grwpiau penodol o ddysgwyr, fel y mae llawer yn ei wneud eisoes. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i fesurau diogelu, fel golchi dwylo, asesiadau risg a chyfyngiadau priodol barhau i fod ar waith, a chafodd canllawiau dysgu a gweithredol diwygiedig eu cyhoeddi yn gynharach yr wythnos hon i gefnogi'r broses dychwelyd i'r ysgol honno ym mis Medi.

Hefyd i gefnogi ysgolion, byddwn yn recriwtio staff ychwanegol ac yn cefnogi'r cam adfer ac yn parhau i godi safonau yn rhan o'n cenhadaeth genedlaethol drwy sicrhau bod tua £29 miliwn ar gael ar gyfer yr ymdrech honno. Nid ateb tymor byr yw hwn, ac rwy'n gwarantu'r arian hwn a staff a chymorth ychwanegol drwy gydol y flwyddyn academaidd nesaf. Mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu recriwtio cyfwerth â 600 o athrawon ychwanegol a 300 o gynorthwywyr addysgu ychwanegol drwy gydol y flwyddyn ysgol nesaf. Bydd y cymorth ychwanegol yn canolbwyntio ar y rhai sy'n sefyll arholiadau cyhoeddus, yn ogystal â dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed o bob oed. Gallai'r dulliau gynnwys cymorth hyfforddi ychwanegol, rhaglenni dysgu personol ac amser ac adnoddau ychwanegol ar gyfer archwiliadau disgyblion.

Yn gyflym iawn, Llywydd dros dro, byddwn yn gweithio gyda'r sector gofal plant yn ystod yr haf, a'n nod yw cynyddu maint y grwpiau cyswllt a chefnogi eu symudiad tuag at weithrediadau llawn, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, i alluogi hynny i ddigwydd. Ac mae adnoddau ychwanegol ar gyfer cymorth i deuluoedd plant sy'n agored i niwed wedi eu neilltuo ar gyfer gwyliau'r haf. Rwy'n cydnabod bod gan addysg feithrin ei chymhlethdodau ei hun, ac rydym ni'n datblygu canllawiau eraill i gefnogi'r sector.

Rwyf i wedi bod yn glir drwy gydol y pandemig hwn fod yn rhaid i ni roi blaenoriaeth i sicrhau'r dysgu mwyaf posibl gan darfu cyn lleied â phosibl ar ein pobl ifanc, ac rwyf i hefyd yn glir na ddylem ni byth golli ein disgwyliadau y gellir cefnogi unrhyw un o'n pobl ifanc, ni waeth beth fo'u cefndir, i gyrraedd y safonau uchaf posibl. Ac rwy'n benderfynol na fyddwn ni'n colli'r momentwm hwnnw, er gwaethaf COVID-19, ac rwy'n gwybod bod athrawon a rhieni ledled Cymru yn rhannu'r uchelgais hwnnw.

Ynghyd â'n cwricwlwm newydd, yr oeddwn i'n falch iawn o dreulio awr a hanner—