Part of the debate – Senedd Cymru am 7:20 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch, Llywydd dros dro. Dyma'r trydydd tro i ni drafod Cymru sofran mewn ychydig dros ddwy flynedd. Cymerodd hi 19 mlynedd i gael y ddadl gyntaf, felly rydym ni'n gwneud cynnydd—rydym ni'n gwneud cynnydd.
Rwy'n falch iawn o Gymru, rwy'n falch iawn o'r hyn yr ydym ni wedi ei gyflawni, ac rwy'n fwy balch byth pan rydym ni'n mynd ymlaen i gyflawni mwy o bethau pan fo'r pwerau gennym ni. Rwy'n cefnogi cysyniad hen ffasiwn, a chaiff ei alw'n ddemocratiaeth. Dylai penderfyniadau ar gyfer Cymru gael eu gwneud yng Nghymru.
Ni allaf ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith arbennig o dda yn ystod yr 21 mlynedd diwethaf. Nid yw'n syndod, oherwydd mai rheolaeth un blaid fu gennym ni, gyda chefnogaeth Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, felly byddwn yn cytuno â datganiadau nad ydym ni wedi gwneud yn dda dros yr 21 mlynedd diwethaf. Ond mae'n rhaid i ni wahaniaethu rhwng y sefydliad a'r cartel gwleidyddol sy'n rhedeg datganoli a'r Senedd ar hyn o bryd. Mewn democratiaeth iach, mae Llywodraethau yn newid, a chredaf y bydd yn arwydd o aeddfedrwydd gwleidyddol yng Nghymru pan gaiff Cymru ei llywodraethu gan blaid wahanol.
Credaf hefyd y dylai pobl, mewn democratiaeth iach, gael cyfle uniongyrchol i wneud y cyfreithiau sy'n eu rheoli, a dyna pam yr wyf i wedi rhoi gwelliant 8. Mae cyflwyno democratiaeth uniongyrchol fodern yn un o fentrau allweddol Welsh National Party. Mae'n rhywbeth sydd gan lawer o wledydd, fel y Swistir, ac yn hytrach na chael pleidlais unwaith bob pum mlynedd a gadael i'ch Llywodraeth wneud pob penderfyniad ar eich rhan, mae democratiaeth uniongyrchol fodern yn golygu y gall pobl wneud penderfyniadau drostynt eu hunain. Os gellir sicrhau digon o lofnodion, yna gallai refferendwm lleol neu genedlaethol gael ei gynnal a fyddai'n rhwymol. Llywodraeth y bobl yw hynny.
Fel aelod o'r Pwyllgor Deisebau, rwyf wedi gweld drosof fy hun sut, o gael y cyfle, y mae'r cyhoedd yn cyflwyno cynigion craff. Ond, ar hyn o bryd, dim ond trwy sicrhau 5,000 o lofnodion y gallan nhw sicrhau dadl yn y Siambr. Rwy'n credu, efallai, os sicrheir 100,000 o lofnodion, yna y dylen nhw allu cael refferendwm, ac rwyf yn ymddiried ym mhobl Cymru i wneud hynny a gwella ein democratiaeth. Dylid pleidleisio ar bethau fel cynlluniau datblygu lleol. Os yw corfforaeth eisiau rhoi llosgydd yn eich cymuned, dylai'r gymuned gael pleidlais ar hynny i benderfynu a yw pethau'n digwydd ai peidio.
Mae angen cyfansoddiad a bil hawliau arnom ni hefyd i sicrhau bod lleiafrifoedd yn ein gwlad yn cael eu diogelu, ynghyd â hawliau unigolion, a dyna pam yr wyf i wedi cyflwyno gwelliant 7. Rwyf wedi galw am gyfansoddiad Cymru a bil hawliau.
Mae'r DU yn enwog am beidio â chael cyfansoddiad ysgrifenedig, ond rwy'n credu bod gwir angen am un, a gallwn ni arwain yn y fan yma drwy gyflwyno un i ni ein hunain yng Nghymru. Hoffwn i weld hynny'n digwydd gyda chonfensiwn cenedlaethol yn cael ei sefydlu, ynghyd â chynulliad dinasyddion a fyddai'n gyfrifol am lunio cyfansoddiad a bil hawliau cyn i'r cyhoedd bleidleisio arnynt. Rwy'n credu bod cyfansoddiad yn rhywbeth sy'n wirioneddol gadarnhaol, oherwydd gall pobl edrych ar—. Wel, gallwn ni drafod, yn gyntaf, fel gwlad, a gallwn ni ddweud, 'Beth yw Cymru? Beth ydym ni? I ble yr ydym ni'n mynd?' Rhyddid a warantir i fynegi barn, hawl a warantir i gael cartref, hawl i addysg am ddim. Mae'r rhain i gyd yn bethau y gallem ni eu trafod mewn cyfansoddiad, ac yna gallem ni ddweud, 'Iawn, dyna pwy ydym ni. Dyna yw Cymru. Os ydych chi'n dod i Gymru, rydych chi'n ymrwymo i'r cyfansoddiad ac rydych chi'n Gymro.' Mae hynny'n rhywbeth mae'r Welsh National Party yn awyddus iawn i symud ymlaen.
Rhoddais y gwelliannau oherwydd fy mod i eisiau gweld Cymru yn symud ymlaen fel gwlad ddemocrataidd, ac rydym ni eisiau rhoi'r grym sofran yn ôl yn nwylo'r bobl sy'n byw yng Nghymru, mewn ystyr unigol, mewn ystyr gymunedol, ac mewn ystyr genedlaethol hefyd. Felly, rwyf yn gofyn i bawb yn y fan yma gefnogi dau welliant eithaf synhwyrol, yn fy marn i, i'r cynnig cyffredinol, y byddaf i'n eu cefnogi. Diolch yn fawr.