18. Dadl Plaid Cymru: Cymru Annibynnol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 6:56, 15 Gorffennaf 2020

Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Mae'n bleser gen i gynnig y cynnig yma yn ffurfiol. Mae'n bleser gen i agor y ddadl yma, sydd, i mi, yn gofyn i'r Senedd roi sêl bendith i egwyddor ddemocrataidd gwbl sylfaenol. Gymaint â dwi yn bersonol yn gwbl eglur y byddai Cymru yn gallu ffynnu fel gwlad annibynnol, nid gofyn i'r Senedd gefnogi annibyniaeth rydyn ni, ond yn hytrach gofyn i'r Senedd gefnogi'r egwyddor mai pobl Cymru ddylai benderfynu.

Dwi'n ddiolchgar i fy etholwraig i wnaeth anfon llythyr ataf i y bore yma yn rhannu ei barn hi mai hawl pobl Cymru yw penderfynu a ddylai Cymru ddod yn wlad annibynnol. Mae hi'n mynd ymlaen i ddweud dylai'r grym dros alw refferendwm o'r fath fod yn eiddo i'r Senedd; wedi'r cyfan, hawl unrhyw genedl yw penderfynu ar ei dyfodol ei hun.

Mae cymal olaf y cynnig yma yn galw ar Lywodraeth Cymru i geisio'r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu i'r Senedd ddeddfu yn ystod y tymor nesaf i gynnal refferendwm gyfrwymol ar annibyniaeth.