Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Ydym, rydym ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i geisio'r hawl gyfansoddiadol i ganiatáu cynnal refferendwm rhwymol ar annibyniaeth. Nawr, rwyf i wedi bod yn gefnogwr brwd o annibyniaeth drwy gydol fy oes; gall angerdd weithiau awgrymu ysgogiad emosiynol i hyn, a byddwn i'n dweud celwydd pe byddwn i'n dweud nad oedd gen i ymlyniad emosiynol iawn i'm gwlad a'i dyfodol. Ond rwyf i'n ystyried fy hun yn ddyn eithaf pragmatig: nid yw annibyniaeth, i mi, yn nod ynddo'i hun, yn hytrach mae'n fodd o ganiatáu i'm gwlad ddarparu gwell dyfodol i'w phlant, i allu mynegi ei hun yn wlad agored, sy'n edrych tuag allan, yn meithrin partneriaethau, yn groesawgar ac yn mynd amdani, a'i chyfyngiadau wedi eu dileu. Heriol? Mawredd, ydy, a wyddoch chi beth? Os nad ydym ni'n ddigon cryf i ateb yr her, gallwn ni barhau fel yr ydym ni: dibyniaeth, diffyg twf, tlodi, tlodi o ran cyfle, diffyg buddsoddiad. Nid yw'r un o'r rhain yn ddigon i mi, ond dyna yw Cymru ar hyn o bryd: llawn o bobl dda, llawn o syniadau da, ymdeimlad gwirioneddol o'i hunan, ymdeimlad o gymuned a menter gyffredin, ond yn methu â defnyddio'r holl bethau hynny i unrhyw raddau sy'n agos at eu potensial.
Nawr, y cyd-destun presennol, wrth gwrs, yw'r pandemig. Ar hyn o bryd y DU sydd â'r trydydd nifer uchaf o farwolaethau yn y byd, y tu ôl i UDA a Brasil. Gyda'i gilydd, maen nhw wedi ffurfio rhyw fath o echel o anallu, yn cyfrif am dros 250,000 o farwolaethau, bron i hanner y cyfanswm byd-eang. Rwyf i wedi bod yn feirniadol o Lywodraeth Cymru ynghylch llawer o'i hymateb i'r pandemig, ond rwy'n gobeithio bod Gweinidogion o'r farn fy mod i wedi ceisio gwneud hynny mewn modd adeiladol a fy mod i wedi nodi bod llawer i'w groesawu yn null Llywodraeth Cymru hefyd. Ac rwyf i'n credu y gellir dadlau ei bod ar ei chryfaf pan fu hi'n barod i ymwahanu—trwy lynu wrth y neges i aros gartref, er enghraifft, yn hirach, gan weithredu'n fwy gofalus yn gyffredinol.
Nawr, rwy'n credu y byddai Llywodraeth Cymru efallai yn cyfaddef yn breifat mai'r camgymeriad mwyaf a wnaeth oedd cyd-fynd yn rhy agos â strategaeth pedair gwlad y DU. Arweiniodd hyn at gamgymeriadau fel cyfyngu ar brofion, penderfynu peidio â gweithredu system profi ac olrhain yn gynnar ac, wrth gwrs, methu â gorfodi'r cyfyngiadau symud yn gynharach. Mae digon o enghreifftiau hefyd pan fo Llywodraeth y DU mewn gwirionedd wedi tanseilio ymdrechion Cymru: herwgipio cytundeb profi Roche, dweud wrth gyflenwyr cyfarpar diogelwch personol i beidio â chyflenwi cartrefi gofal na deintyddion yng Nghymru, methu â chyfathrebu'n ddigonol y rheolau gwahanol o ran y cyfyngiadau symud yng Nghymru, methu, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan y Prif Weinidog, â sicrhau cyfathrebu yn ddigon rheolaidd rhwng Prif Weinidog u DU ac arweinyddion datganoledig.
Nawr, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y gallem ni fod wedi gwneud mwy pe byddai gennym ni'r mathau o arfau sydd gan wledydd annibynnol: y gallu i lunio ac amseru'n iawn ein cynllun ffyrlo ein hunain, gan alluogi cyfyngiadau symud yn gynharach—ac, o ganlyniad, fel yr ydym ni wedi ei weld o wledydd eraill, rwy'n credu, dod allan yn gynharach, ailddechrau gweithgarwch economaidd yn gynharach hefyd—y gallu i reoli ffiniau, efallai, i gyfyngu ar y trosglwyddo ar adegau allweddol, fel yr oedd cenhedloedd Ewropeaidd bach eraill yn gallu ei wneud; byddai ein Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau ein hunain wedi teilwra cyngor i ddiwallu anghenion Cymru o'r cychwyn cyntaf. Mae'n rhestr faith.
I'r rhai hynny sy'n dweud na fyddem ni'n gallu ei fforddio, mai gan y DU yn unig oedd yr adnoddau, mae'n ddrwg gen i ddweud wrthych chi, ond er bod y DU wedi cynyddu ei benthyca yn aruthrol i ymateb i'r argyfwng, mae honno yn ddyled i ninnau hefyd. Does bosib na fyddai wedi bod yn llawer gwell gwneud ein benthyca ein hunain, gan deilwra'r maint, y telerau ac, unwaith eto, amseriad y benthyca hwnnw i gyd-fynd â'n blaenoriaethau.
Yn eu datganiad ar sefydlogi ac ailadeiladu ar ôl pandemig y coronafeirws, a gyhoeddwyd ddoe, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog cyllid:
'nid oes gennym ddigon o arian.... Yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid oes gennym yr hyblygrwydd i fenthyca mwy o arian mewn cyfnod o angen economaidd brys.'
Wel, yn union. Rwyf i'n dweud: gadewch i ni geisio'r hyblygrwydd hwnnw, y math o hyblygrwydd sydd gan wledydd annibynnol.
Nid yw Cymru wedi perfformio cystal â llawer o genhedloedd bach annibynnol eraill. Edrychwch ar Norwy, y Weriniaeth Tsiec, Croatia, Serbia, Lithwania, Gwlad yr Iâ, Wrwgwái—mae ganddyn nhw gyfraddau marwolaeth sy'n ddegfed rhan o gyfraddau marwolaethau Cymru. Ond bydd llawer, wrth gwrs, yn ddealladwy ac yn eithaf priodol, yn cymharu dulliau gweithredu Cymru a'r DU, ac i lawer iawn o bobl, mae'r cyfnod hwn wedi newid y ffordd y maen nhw'n edrych ar Gymru a'r ffordd y cawn ni ein llywodraethu, y ffordd y gallwn ni gael ein llywodraethu. Mae pobl wedi sylweddoli o'r newydd ein bod ni'n gallu gwneud pethau yn wahanol, bod gwerth gwirioneddol mewn gwneud pethau yn wahanol—efallai y gall gwneud pethau yn wahanol achub bywydau, hyd yn oed.
Cefais i e-bost gan etholwr ddoe—nid cefnogwr annibyniaeth gydol oes; un sydd wedi dod i feddwl felly yn ystod y blynyddoedd diwethaf—roedd yn falch ein bod ni'n cael y ddadl hon. Dyma a ddywedodd: 'Mae'n debyg y bydd hyn yn sicr yn arwain y ffordd i Aelodau eraill a fydd yn cefnogi'r undeb yn ddifeddwl. Rwy'n synnu at Lee Waters yn ochri gydag Andrew R.T. Davies', meddai, 'wrth i fwy a mwy ddod i'r amlwg ynghylch aflerwch cyffredinol a dichell Llywodraeth San Steffan wrth ymdrin â'r ymateb COVID.' Ymchwiliais i hyn. Ar y cyfryngau cymdeithasol—ble arall, wrth gwrs—roedd cyn-arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru wedi dilorni cefnogaeth Plaid Cymru i annibyniaeth. Dywedodd ein bod ni'n:
treulio gormod o amser yn siambr atseinio cenedlaetholwyr ar Twitter.
Braidd yn eironig, o gofio ei fod yntau yn atseinio'n rheolaidd o amgylch y cyfryngau cymdeithasol, ond mae croeso iddo fod â'i farn. Camodd Lee Waters i'r adwy—Dirprwy Weinidog—i ddweud ei fod yn cytuno ag ef, ond yna gofynnodd unigolyn arall iddo:
beth ddylai Cymru ei wneud pan fydd yr Alban yn pleidleisio dros annibyniaeth a phan fydd Gogledd Iwerddon yn ailuno â gweddill Iwerddon?
Yr ymateb a roddodd Lee Waters oedd 'ailasesu'. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n dweud llawer. A ddylem ni drafod ein dyfodol fel gwlad ar ôl i wledydd eraill drafod eu dyfodol nhw? Ai dyna'r hyn yr ydym ni ei eisiau: bod yn wlad sy'n ceisio ffurfio ei dyfodol ei hun dim ond ar sail yr hyn y mae eraill yn ei benderfynu ar eu cyfer nhw—gwlad a fydd hyd yn oed ddim ond yn ystyried beth sydd orau i ni os bydd eraill yn ein rhoi ni mewn sefyllfa pan fo'n rhaid i ni wneud hynny? Mae angen i ni gael y ddadl honno yn awr, yn rhagweithiol, a dyna pam mae mwy a mwy o bobl ledled Cymru yn ymuno â'r drafodaeth honno. Ac mae'n synnwyr cyffredin democrataidd pur mai ni ddylai fod â'r dewis, fel gwlad, trwy ein Senedd genedlaethol, i gyflwyno hynny i bleidlais: ein dyfodol ni yn ein dwylo ein hunain.