Part of the debate – Senedd Cymru am 7:57 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Llywydd, diolch i chi am ganiatáu i mi wneud pwynt o drefn. Yn fy nghyfraniad agoriadol i'r ddadl ar 20 mya, dywedais yn gywir fod 80 o blant wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru y llynedd. Yn fy nghyfraniad terfynol, camddarllenais fy nodiadau a defnyddiais y ffigur o 800. Gobeithio y byddwch yn derbyn bod hyn oherwydd blinder, ac nid ymgais i gamarwain. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gywiro'r cofnod, ac rwy'n ymddiheuro.