Pwynt o Drefn

– Senedd Cymru am 7:57 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 7:57, 15 Gorffennaf 2020

A chyn i ni gyrraedd y cyfnod pleidleisio, dwi wedi cytuno i bwynt o drefn gan y Dirprwy Weinidog, Lee Waters.  

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolch i chi am ganiatáu i mi wneud pwynt o drefn. Yn fy nghyfraniad agoriadol i'r ddadl ar 20 mya, dywedais yn gywir fod 80 o blant wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau ar y ffyrdd yng Nghymru y llynedd. Yn fy nghyfraniad terfynol, camddarllenais fy nodiadau a defnyddiais y ffigur o 800. Gobeithio y byddwch yn derbyn bod hyn oherwydd blinder, ac nid ymgais i gamarwain. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gywiro'r cofnod, ac rwy'n ymddiheuro.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

Yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud nawr cyn inni gychwyn ar y bleidlais. Pum munud, felly, o egwyl.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:58.

Ailymgynullodd y Senedd am 20:07, gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.