Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:20 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 10:20, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu mai'r pwynt yn yr astudiaeth honno ac, yn wir, gwyddonwyr eraill sydd wedi cefnogi'r defnydd o fasgiau wyneb yn frwd, yw, wrth i chi newid lefel y cyfyngiadau a'ch bod felly yn arwain at fwy o bobl mewn mwy o gysylltiad, bod cael gorchudd wyneb yn fesur ychwanegol a all newid nifer yr achosion ac, yn wir, nifer y marwolaethau wedyn.

A gaf i aros gyda'r sector gofal? Os yw'r argyfwng COVID wedi addysgu unrhyw beth i ni, gwerth y sector hwnnw yw hynny. Mae gweithwyr gofal wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y feirws, fel y gwyddom. Mae eu hymdrechion diflino wedi cael eu llesteirio ar adegau gan y ddynameg sy'n aml yn ddatgysylltiedig rhwng ein sectorau iechyd a gofal a'r ffaith nad ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith. Onid dyma'r amser, Prif Weinidog, wrth i ni ddechrau meddwl am Gymru ar ôl COVID, am wasanaeth iechyd a gofal integredig cenedlaethol sydd am ddim ar bwynt angen a fydd yn cysoni ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol ac yn rhoi'r codiad cyflog a'r strwythur cyflogau y maen nhw'n eu haeddu i weithwyr gofal drwy eu symud i raddfeydd cyflog y GIG? Nid oes dim yn rhwystro hyn rhag digwydd, o ewyllys gwleidyddol. A ydych chi'n rhannu hynny?