1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:12 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Yn gyntaf heddiw, arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, canfu astudiaeth a gyhoeddwyd gan Ganolfan Leverhulme Rhydychen ar gyfer Gwyddoniaeth Ddemograffig bod gorchuddion wyneb yn effeithiol o ran lleihau lledaeniad COVID-19 i'r sawl sy'n eu gwisgo a'r rhai o'u hamgylch, ac mae hyn yn ychwanegu, wrth gwrs, at gorff cynyddol o dystiolaeth sy'n cefnogi'r un casgliad. Nododd yr astudiaeth ymhellach fod tua 70 o wledydd wedi argymell yn syth y dylid defnyddio masgiau yn gyffredinol ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi'r pandemig yng nghanol mis Mawrth. Hyd yn hyn, mae mwy na 120 o wledydd yn gwneud gwisgo masg yn ofynnol bellach—mae hynny'n fwy na 60 y cant o'r byd. Maen nhw'n orfodol yn yr Alban, fel y gwyddom ni, mewn siopau, a bydd yr un peth yn wir yn Lloegr o 24 Gorffennaf ymlaen—oedi anesboniadwy braidd, yn fy marn i.
Mae eich dull gofalus, o ran llacio'r cyfyngiadau, wedi gweithio'n dda mewn sawl ffordd, ond rydych chi mewn perygl nawr, rwy'n credu, o droedio'r llinell rhwng bod yn rhy bwyllog a bod yn rhy araf yn y mater hwn. Pam mae Cymru ar ei hôl hi pan fo cynifer o wledydd eraill wedi cymryd camau mor bendant?
Rwy'n gwrthod yn llwyr yr ymadrodd ar ei hôl hi. Rydym ni'n gwneud y pethau sy'n iawn i Gymru. Nid yw hynny'n golygu dilyn unrhyw un arall dim ond am eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yr ydym ni wedi penderfynu peidio â'i wneud.
Llywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny, hoffwn gymryd munud yn hwy nag a fyddwn fel rheol i esbonio safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, o gofio ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Yn gyntaf oll, mae'n bwysig meddwl am y cyd-destun yn y fan yma. Mae rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfyngiad ar ryddid dinasyddion Cymru fod yn gymesur â'r perygl i iechyd y cyhoedd a wynebir.
Beth yw cyflwr y feirws yma yng Nghymru? Wel, mae ar ei lefel isaf ers dechrau'r argyfwng. 0.25 y cant—chwarter o 1 y cant—oedd cyfradd y canlyniadau positif yn y 7,000 o brofion y dydd a gynhaliwyd yng Nghymru dros y penwythnos, neu 20 prawf allan o 7,000 yn dod yn ôl yn rhai positif. Mewn cyferbyniad, 7 y cant yw cyfradd y canlyniadau positif yn Blackburn, lle mae cyfyngiadau symud yn cael eu hailgyflwyno—30 gwaith y gyfradd yng Nghymru. Nid oedd un achos positif mewn rhannau helaeth o Gymru dros y penwythnos diwethaf cyfan—14 o'r 22 awdurdod lleol, o'r hyn a gofiaf, heb yr un achos positif wedi'i adrodd. Y prawf cymesuredd: a yw'n gymesur ei gwneud yn ofynnol i holl ddinasyddion Cymru sy'n mynd i mewn i siop wisgo gorchudd wyneb, pan fo'r feirws mewn cylchrediad mor isel yma yng Nghymru?
Yna, y mater o siopau. Wel, mae siopau yn wahanol yng Nghymru gan fod ein rheoliadau yn wahanol. Yn wahanol iawn i'r sefyllfa ar draws ein ffin, bu'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn rheoliadau gennym ni, a dyna'r sefyllfa ddiofyn yma yng Nghymru o hyd: rhwymedigaeth gyfreithiol ar fusnesau i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau pellter o 2m. Ac, ers dydd Llun, ceir rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ar siopau erbyn hyn i gymryd cyfres bellach o fesurau lliniaru pan na ellir cynnal pellter o 2m, ac anfonwyd llythyrau at bob un o'r prif archfarchnadoedd ddoe i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r gyfraith yng Nghymru a'u rhwymedigaeth i gydymffurfio â hi.
Ac yna, yn olaf, Llywydd, a yw hi'n ddiamwys ac yn amlwg yn fanteisiol i wrthod mynediad i siopau i'r rhai nad ydyn nhw'n gwisgo gorchuddion wyneb? Nid yw cyngor ein prif swyddog meddygol wedi newid: mae ganddyn nhw fân fanteision ond mae ganddyn nhw anfanteision pendant hefyd. Mae rhai pobl yn cymryd mwy o risgiau oherwydd eu bod nhw'n gwisgo gorchudd wyneb. Nid yw rhai pobl yn gallu gwisgo gorchuddion wyneb: pobl â chyflyrau ar yr ysgyfaint, pobl â chyflyrau asthmatig. Mae rhai pobl dan anfantais pan fydd pobl eraill yn gwisgo gorchuddion wyneb: pobl â nam ar eu golwg, pobl sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau. Ac, ar ôl iddo ddod yn orfodol, bydd yn rhaid ei orfodi. Felly, Llywydd, rydym ni'n parhau i adolygu'r holl beth. Rwyf i wedi gofyn am ragor o gyngor, er enghraifft, ar awgrymiadau bod archfarchnadoedd mewn cyrchfannau twristiaid wedi bod yn orlawn dros y penwythnos diwethaf wrth i boblogaethau yn yr ardaloedd hynny gynyddu. Byddai defnydd gorfodol o orchuddion wyneb yn rhan o gyfyngiadau symud lleol, pe byddai hynny'n dod yn angenrheidiol, yn sicr yn rhan o repertoire posibl yma yng Nghymru. A phe byddai cyffredinrwydd coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu, byddai ein cyngor yn cael ei ailystyried. Yn y cyfamser, y sefyllfa yng Nghymru yw bod gan unrhyw un sy'n mynd i mewn i siop sy'n dymuno gwisgo masg wyneb hawl i wneud hynny. Ein cyngor ni, os yw'n orlawn, yw y dylech chi wisgo un. Ond, a ddylem ni ei wneud yn orfodol o dan yr holl amodau yr wyf i wedi'u disgrifio? A ddylem ni dresmasu ar ryddid pobl i'r graddau hynny? Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yng Nghymru.
Rhagamcanwyd yn ddiweddar gan Athrofa Metrigau a Gwerthuso Iechyd Prifysgol Washington mai 20,000 o farwolaethau ychwanegol fyddai'r gwahaniaeth rhwng defnydd cyffredinol o fasgiau wyneb yn y DU rhwng nawr a mis Tachwedd. Ar sail gymesur, byddem ni'n sôn am tua 1,000 o farwolaethau posibl yng Nghymru. Yn rhan o'r adolygiad y mae wedi cyfeirio ato, a wnaiff ef ofyn yn benodol i'r gell cynghori technegol ac i'r prif swyddog meddygol edrych ar yr astudiaeth honno a pha un a oes ganddi rym tystiolaethol a fyddai'n awgrymu bod angen i ni newid y polisi a bod angen i ni ei newid yn gyflym?
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—? O ran y sector gofal, rydym ni wedi clywed gan Fforwm Gofal Cymru eu mynegiant o siom nad ydyn nhw wedi cael unrhyw sicrwydd ynghylch pa un a fydd profion wythnosol i staff yn parhau. A allwch chi heddiw, Prif Weinidog, dawelu pryderon y sector a chyhoeddi eich strategaeth profi ar gyfer cartrefi gofal yn y dyfodol?
O ran pwynt cyntaf Mr Price, rwyf i wedi gweld yr astudiaeth honno, ac rwy'n hapus iawn i ofyn i'r grŵp cynghori technegol edrych arni. Ar y darlleniad cyntaf, mae'n ymddangos yn annhebygol iawn. Rydym ni wedi llwyddo yng Nghymru i fynd o sefyllfa lle'r oeddem ni'n adrodd am ddegau o farwolaethau bob dydd i sefyllfa lle na chafwyd marwolaeth o gwbl mewn tri neu bedwar diwrnod dros y penwythnos, ac yn ystod y cyfnod hwnnw nid oedd gorchuddion wyneb erioed yn orfodol o gwbl. Felly, sut y gellir dadlau gyda hygrededd y byddem ni'n atal 1,000 o farwolaethau ychwanegol dim ond drwy wisgo gorchuddion wyneb—. Ar y darlleniad cyntaf, cefais hynny'n anodd iawn ei ddeall ac i weld grym y ddadl honno, yn enwedig pan nad yw gorchuddion wyneb yn agos at fod yr un amddiffyniad i chi â chadw pellter cymdeithasol o 2m a gwneud y pethau eraill sy'n cael mwy o effaith ar siawns pobl o ddal y feirws. Ond, mae ein grŵp cynghori technegol yno i adolygu'r dystiolaeth ac rwy'n hapus iawn y dylai adolygu'r dystiolaeth honno hefyd.
Y prynhawn yma, Llywydd, bydd fy nghyd-Weinidog Vaughan Gething yn ateb cwestiwn, rwy'n deall, am gartrefi gofal. Bydd yn gallu esbonio canlyniadau'r dadansoddiad yr ydym ni wedi bod yn ei gynnal o'r pedair wythnos o brofion wythnosol ar staff cartrefi gofal—profion a ddatgelodd mai 0.1 y cant oedd cyffredinrwydd coronafeirws ymhlith staff cartrefi gofal, un person o bob mil. Felly, bydd yn cyflwyno ei gasgliadau o ran yr hyn y mae hynny'n ei olygu i brofion yn y sector cartrefi gofal yn yr wythnosau i ddod y prynhawn yma, a chanlyniad ymgysylltiad uniongyrchol â Fforwm Gofal Cymru fydd yr hyn a fydd ganddo i'w ddweud.
Rwy'n credu mai'r pwynt yn yr astudiaeth honno ac, yn wir, gwyddonwyr eraill sydd wedi cefnogi'r defnydd o fasgiau wyneb yn frwd, yw, wrth i chi newid lefel y cyfyngiadau a'ch bod felly yn arwain at fwy o bobl mewn mwy o gysylltiad, bod cael gorchudd wyneb yn fesur ychwanegol a all newid nifer yr achosion ac, yn wir, nifer y marwolaethau wedyn.
A gaf i aros gyda'r sector gofal? Os yw'r argyfwng COVID wedi addysgu unrhyw beth i ni, gwerth y sector hwnnw yw hynny. Mae gweithwyr gofal wedi bod ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y feirws, fel y gwyddom. Mae eu hymdrechion diflino wedi cael eu llesteirio ar adegau gan y ddynameg sy'n aml yn ddatgysylltiedig rhwng ein sectorau iechyd a gofal a'r ffaith nad ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith. Onid dyma'r amser, Prif Weinidog, wrth i ni ddechrau meddwl am Gymru ar ôl COVID, am wasanaeth iechyd a gofal integredig cenedlaethol sydd am ddim ar bwynt angen a fydd yn cysoni ein gwasanaethau cyhoeddus mwyaf hanfodol ac yn rhoi'r codiad cyflog a'r strwythur cyflogau y maen nhw'n eu haeddu i weithwyr gofal drwy eu symud i raddfeydd cyflog y GIG? Nid oes dim yn rhwystro hyn rhag digwydd, o ewyllys gwleidyddol. A ydych chi'n rhannu hynny?
Wel, Llywydd, rwy'n deall y pwynt a wnaeth Adam Price am yr astudiaeth. Dyna pam y dywedais i yn fy ateb gwreiddiol y byddwn i'n gofyn am ragor o gyngor ar awgrymiadau bod archfarchnadoedd wedi dod yn arbennig o orlawn mewn rhai rhannau o Gymru. Oherwydd, pe byddai hynny'n wir, mae'r ddadl dros wisgo gorchuddion wyneb yn cael ei chryfhau yn y cyd-destunau hynny. Felly, rwy'n deall y pwynt a wnaeth yn y fan yna.
Llywydd, bu gennym ni raglen sylweddol o fewn Llywodraeth Cymru o dalu am ofal, gan fanteisio ar waith yr Athro Gerry Holtham a'r cynigion y mae ef wedi eu gwneud. A, gan rannu llawer o'r pwyntiau y mae Adam Price wedi eu gwneud y bore yma am werth y sector a'r angen i wneud yn siŵr bod y bobl sy'n gweithio ynddo yn cael eu parchu a'u gwobrwyo'n briodol, byddwn yn defnyddio'r gwaith hwnnw i fwrw ymlaen â pholisi yng Nghymru. Ac mae gwir angen i ni weld, Llywydd, casgliad polisi gan Lywodraeth y DU—mae adolygiad Dilnot bron yn ddegawd oed erbyn hyn a does dim o gwbl y gellir ei ddangos ohono—gan y bydd unrhyw beth yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru yn cael ei effeithio yn anochel gan newidiadau yn y system budd-daliadau, a gynigiwyd gan Dilnot, a bydden nhw'n cael effaith ar ddinasyddion Cymru hefyd. Felly, ni fydd ateb ar gyfer Cymru yn unig yn gweithio, gan y bydd y rhyngblethedd â phenderfyniadau a wneir mewn meysydd nad ydynt wedi'u datganoli yn berthnasol, a byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr bod ein camau yn rhoi ystyriaeth lawn i'r newidiadau a wneir dros y ffin ac mae angen i ni wybod beth fydd y newidiadau hynny.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o 6 Gorffennaf, mae aelwydydd yng Nghymru wedi cael caniatâd i ddod at ei gilydd i ffurfio swigen gymorth estynedig i alluogi teuluoedd i aduno, sy'n golygu y caiff pobl ffurfio un aelwyd estynedig a chyfarfod dan do. Croesawyd y cam hwnnw gan lawer ledled Cymru a oedd, ar ôl misoedd o beidio â chael gweld eu hanwyliaid, yn cael treulio rhywfaint o amser gyda'u teuluoedd a chyda'u ffrindiau o'r diwedd. O ystyried pa mor gyflym y mae cynifer o newidiadau yn cael eu gwneud erbyn hyn, sydd bellach yn arwain at fwy a mwy o bobl yn rhyngweithio â'i gilydd mewn mannau awyr agored ac o dan do, efallai ei bod hi'n bryd ystyried creu swigod cymorth pellach, felly. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa dystiolaeth wyddonol y mae Llywodraeth Cymru yn ei defnyddio i ategu ei pholisi ar swigod cymdeithasol? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i lacio cyfyngiadau ymhellach o ran y mater penodol hwn?
Llywydd, rwy'n credu bod y dystiolaeth yr ydym ni'n gweithredu arni wedi ei chyflwyno mewn papur grŵp cynghori technegol a gyhoeddwyd gennym ni. Byddaf yn gwirio a yw wedi'i gyhoeddi ac, os nad ydyw, rwy'n hapus iawn i rannu'r papur gydag arweinydd yr wrthblaid. Mae'n bapur manwl. Mae'n manteisio i raddau helaeth iawn ar brofiad yn Seland Newydd fel y sail i'r cynigion yr ydym ni'n eu dilyn yma yng Nghymru.
Byddwn yn parhau i adolygu'r polisi hwnnw yn ystod y cylch tair wythnos presennol, ac rydym ni eisoes ymhell i mewn i'w wythnos gyntaf. Byddwn yn defnyddio'r hyblygrwydd ychwanegol yr oedd gennym ni yn ystod y tair wythnos hon i roi sylw i'r galwadau brys gan y diwydiant twristiaeth a lletygarwch i ailagor y busnesau hynny yng Nghymru, ac ar ôl i ni wneud y penderfyniadau hynny, yna faint o hyblygrwydd sydd gennych chi ar ôl i wneud mwy o ran aelwydydd estynedig, neu aelwydydd yn dod at ei gilydd yn yr awyr agored neu o dan do, yn anochel yn gyfyngedig. Ar yr amod ein bod ni mewn sefyllfa, ar ddiwedd y cylch tair wythnos hwn, bod coronafeirws yng Nghymru yn dal o dan reolaeth, i'r graddau yr wyf i eisoes wedi'u disgrifio y bore yma, bydd posibiliadau newydd, a bydd defnyddio rhywfaint o'r hyblygrwydd hwnnw i lacio ymhellach y cyfyngiadau ar deuluoedd a ffrindiau yn cyfarfod yn sicr yn rhan o'r ystyriaeth honno.
Prif Weinidog, diolch i bobl Cymru, gwnaed cynnydd sylweddol o ran cyfyngu lledaeniad y feirws mewn cymunedau ledled Cymru, sydd, wrth gwrs, wedi caniatáu i ryddid gael ei ymestyn mewn meysydd eraill. Er enghraifft, mae cyfres arall o gyfyngiadau coronafeirws sydd hefyd wedi cael eu codi yng Nghymru, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, yn ymwneud â llety hunangynhwysol, megis bythynnod gwyliau a charafanau, yn ailagor.
Mae busnesau lletygarwch Cymru ledled y wlad hefyd wedi dechrau ailagor yr wythnos hon mewn mannau awyr agored, ac mae llawer yn edrych ar ffyrdd y gallan nhw barhau i gydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth pan fyddan nhw'n ailagor eu mannau dan do ar 3 Awst. Felly, o ystyried yr angen i gynorthwyo busnesau lletygarwch yma yng Nghymru ar unwaith, a allwch chi ddweud wrthym ni pa becyn cymorth penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu yn y tymor byr? Ac a fyddwch chi hefyd yn cyflwyno strategaeth benodol ar gyfer y sector lletygarwch yn y tymor canolig a'r hirdymor i ddiogelu ei gynaliadwyedd a diogelu swyddi hanfodol? A pha strategaeth twristiaeth ddomestig y mae Llywodraeth Cymru yn ei datblygu fel y gallwn ni sicrhau bod ymwelwyr yn gwario cymaint a phosibl a helpu i gefnogi ein busnesau twristiaeth a lletygarwch yn y cyfnod hwn?
Wel, Llywydd, darparwyd degau o filiynau o bunnau o gymorth eisoes i'r sector twristiaeth ac, ar wahân ac yn ychwanegol, i'r sector lletygarwch yma yng Nghymru. Mae hynny yn ychwanegol at yr holl gymorth y mae'r sector wedi ei gael gan Lywodraeth y DU drwy'r cynllun ffyrlo, sydd wedi bod yn bwysig dros ben yn y ddau ddiwydiant hynny. A gwnaed llawer iawn, iawn o geisiadau ychwanegol i gam 2 y gronfa cadernid economaidd, a ddaeth i ben ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, eto o'r sectorau hynny. Felly, mae'r sectorau wedi cael cymorth sylweddol iawn gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru i gydnabod yr effaith enfawr y mae'r coronafeirws wedi ei chael arnyn nhw.
Mae ein strategaeth uniongyrchol wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar ailagor y sectorau a'u hailagor yn ddiogel, a dyna fydd ein pwyslais o hyd dros yr wythnosau nesaf, oherwydd mae angen gwneud llwyddiant o'r camau cyntaf hyn fel y gallwn ni adeiladu arnyn nhw ymhellach a pharhau i ailagor y sector. Ac mae adnoddau Llywodraeth Cymru, yr adnoddau staffio, ein gallu i ymgysylltu yn uniongyrchol â'r sector wedi canolbwyntio i raddau helaeth ar y strategaeth honno, cael y diwydiannau hyn yn gweithio unwaith eto. Ar ôl i ni lwyddo i wneud hynny yn llwyddiannus, yna, wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda meysydd twristiaeth a lletygarwch, ar y cyd â nhw, i lunio dyfodol drwy weddill y flwyddyn hon sydd yn adeiladu ar ba lwyddiant bynnag y gallwn ni ei sicrhau ac sy'n caniatáu iddyn nhw barhau i ennill bywoliaeth yn y modd y maen nhw'n ei wneud, i ddarparu cyflogaeth yn y modd y maen nhw'n ei wneud, ac i gyfrannu at economi Cymru mewn modd sylweddol iawn.
Prif Weinidog, mae ailagor y sector lletygarwch yn raddol yng Nghymru yn cynnig rhagor o gyfleoedd i bobl ryngweithio'n gymdeithasol gydag aelodau o'r tu allan i'w haelwydydd. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â busnesau lletygarwch lleol i drafod effaith barhaus COVID-19 a rheoliadau Llywodraeth Cymru, ac roedd y neges yn eglur: eleni, mae'r rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch yn canolbwyntio ar oroesi yn unig. Felly, wrth i'r cyfyngiadau barhau i gael eu llacio, bydd yn hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod cymaint â phosibl yn cael ei wario yn lleol yng Nghymru, ac rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn ail-ganolbwyntio ei harferion caffael i helpu ein busnesau i adfer. Mae busnesau bach a chanolig Cymru angen cymorth nawr yn fwy nag erioed, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio unrhyw a phob ysgogiad sydd ar gael iddi i gefnogi busnesau a hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau lleol. Felly, Prif Weinidog, pa gamau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd o ran ei harferion caffael i gynorthwyo busnesau yng Nghymru a'u helpu i adfer? A allwch chi hefyd ddweud wrthym ni pa ymgyrchu y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i wario yn lleol a chefnogi busnesau Cymru i helpu i adfywio cymunedau lleol ar draws y wlad? Ac, o ystyried y mesurau a gyflwynwyd gan wledydd eraill ar draws y byd i gynorthwyo busnesau, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i gyflwyno cymhellion ariannol, fel rhyddhad ardrethi busnes, i gynorthwyo busnesau Cymru i adfer ar ôl y pandemig hwn?
Wel, Llywydd, mae rhyddhad ardrethi busnes fwy neu lai ar gael i bawb yn y sectorau hyn ar gyfradd o 100 y cant am weddill y flwyddyn ariannol hon, felly does dim byd arall y gallwn ni ei wneud yn hynny o beth, oherwydd dydyn nhw ddim yn talu unrhyw ardrethi busnes o gwbl.
O ran gwariant a chaffael lleol, yna'r maes eithriadol lle'r ydym ni wedi gallu ennill tir newydd yn y cyd-destun hwn yw cyfarpar diogelu personol, lle mae llawer o fusnesau yng Nghymru wedi ateb yr alwad a wnaed gennym ni i'n helpu i sicrhau'r cyflenwadau angenrheidiol o gyfarpar diogelu personol ar gyfer ein sector iechyd a gofal cymdeithasol—cyflwynwyd 250 miliwn o eitemau erbyn hyn, Llywydd, miliwn o eitemau yn cael eu cyflwyno bob dydd, 91 miliwn o eitemau i ofal cymdeithasol yn unig. Ni fyddem wedi gallu gwneud hynny pe na byddem ni wedi defnyddio ein prosesau caffael i annog busnesau Cymru i drosi'r hyn yr oedden nhw'n yn ei wneud yn flaenorol i gynhyrchu masgiau wyneb, gynau sy'n gwrthsefyll hylifau a phethau eraill sydd bellach yn cael eu cyflenwi nid yn unig i Gymru, ond i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn o sut, mewn argyfwng, y gall pobl weithredu'n gyflym iawn, yn hynod o gadarnhaol. Rydym ni wedi bod mor ddiolchgar am yr hyn y mae busnesau yng Nghymru wedi ei wneud yn y maes hwn, ac rydym ni eisiau gwneud mwy o hynny, wrth gwrs.
O ran gwariant lleol, yna mae'r ffaith na chafodd ein neges 'aros yn lleol' yng Nghymru ei diddymu tan oddeutu wythnos yn ôl yn golygu bod pobl yn wir wedi bod yn gwario yn lleol yng Nghymru yn ystod y pandemig hwn, oherwydd dyna lle mae eu bywydau wedi cael eu byw. Gwn fod hynny, ynddo'i hun, wedi llwyddo i gynnal nifer o fusnesau na fydden nhw, heb y gefnogaeth leol honno, wedi gallu goroesi. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies: y cwbl y mae llawer o fusnesau yn ei wneud yw ceisio goroesi ar hyn o bryd. A'n nod ni yw eu helpu nhw i oroesi fel y byddan nhw yno i barhau eu llwyddiant blaenorol pan ddaw'r dyddiau gwell. Ond bu'r goroesiad hwnnw yn bosibl, mewn nifer o gyd-destunau, dim ond oherwydd bod pobl wedi aros yn lleol, gan eu bod nhw wedi gwario yn lleol ac wedi cefnogi'r busnesau lleol hynny.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, rydych chi wedi goruchwylio cyfradd sylweddol uwch o haint COVID-19 yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sefyllfa economaidd waeth. Er gwaethaf hyn, rydych chi wedi dod o hyd i amser i ddwrdio Llywodraeth y DU ynghylch ei chyfrifoldebau Brexit, ddwywaith gan ddefnyddio'r argyfwng i fynnu eu bod nhw'n ymestyn y cyfnod pontio, wrth i chi geisio atal Brexit unwaith eto. Nawr, rydym ni'n gweld eich Gweinidog adferiad economaidd yn sgil COVID yn troi ei sylw at ymosod ar Lywodraeth y DU ynghylch Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Mae'n ymosod arni am fethu ag ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad ar y Ddeddf Cydnabod Rhywedd, ac, fe'n hysbysir, am ohirio cyhoeddiad yr adolygiad dro ar ôl tro.
A yw'n bosibl y bu gan Lywodraeth y DU flaenoriaethau eraill?
Llywydd, fe wnaf i geisio cael hyd i rywbeth o'r cwestiwn, os gallaf. Yn sicr, nid yw Brexit wedi diflannu, ac mae Brexit yn mynd i ddigwydd. Y cyfan yr ydym ni'n canolbwyntio arno yw ceisio ei helpu i ddigwydd mewn ffordd nad yw'n ychwanegu haen arall o gyfyngder economaidd ar gwmnïau yng Nghymru sydd eisoes mewn trafferthion, fel y dywedodd Paul Davies, wrth ymdrin â chanlyniadau pandemig byd-eang. Dyna'r cyfan yr ydym ni'n ei ofyn: yn syml nad yw trychineb na allai neb fod wedi ei hatal yn cael ei gwaethygu gan drychineb y gellir yn sicr ei hatal drwy'r weithred syml iawn o ofyn am estyniad byr i'r cyfnod pontio i gymryd i ystyriaeth y ffaith, fel y mae'r Aelod newydd ei ddweud, bod pobl wedi bod yn brysur iawn yn gwneud pethau eraill. Os yw hynny'n berthnasol i'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, siawns ei fod yn fwy perthnasol fyth i ddull synhwyrol o weithredu Brexit.
O ran yr adolygiad o'r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, y cwbl yr ydym ni'n ei ofyn i Lywodraeth y DU ei wneud yw gwneud yr hyn y maen nhw wedi dweud y bydden nhw'n ei wneud. Dim byd arall. Maen nhw wedi cynnal yr adolygiad, maen nhw wedi addo ei gyhoeddi, nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Y cwbl yr ydym ni'n ei ofyn yw eu bod nhw'n gwneud yr hyn y gwnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n ei wneud.
Mewn sawl maes, Prif Weinidog, rydych chi, yn ddealladwy, wedi gwneud ymrwymiadau fel Llywodraeth na fu'n bosibl eu cyflawni neu y bu'n rhaid eu hoedi oherwydd yr argyfwng COVID. Y cwbl yr wyf i'n ei awgrymu yw eich bod chi'n cydnabod ac yn derbyn bod pwysau tebyg yn effeithio ar Lywodraeth y DU. Pleidleisiodd Cymru o blaid Brexit. Fe wnaethoch chi gyflwyno eich cynigion ar y pwnc yn yr etholiad cyffredinol, ac mae gennym ni Lywodraeth Geidwadol sydd â mwyafrif o 80 erbyn hyn. Siawns na ddylech chi dderbyn y penderfyniad democrataidd hwnnw.
Mae gennym ni rai meysydd sydd wedi'u datganoli i Gymru, a rhai meysydd sydd wedi'u cadw yn ôl. Ond dro ar ôl tro rydym ni'n gweld Llywodraeth Cymru yn methu â pharchu'r setliad hwnnw, yn methu â pharchu pwerau a gadwyd yn ôl. O ran cydnabod rhywedd, rwy'n credu bod rhai materion anodd a heriol ynghylch cydbwyso hawliau, ond onid y ffordd o ymdrin ag ef ar gyfer mater a gadwyd yn ôl yw gweithio o fewn y fframwaith a bennwyd gan Lywodraeth y DU, nid gwneud datganiad unochrog o annibyniaeth—yn hytrach, canolbwyntio ar y pwerau datganoledig sydd gennych chi, a gwneud iddyn nhw weithio'n iawn.
Fy mhryder i gyda hyn, fel cynifer o rai eraill, yw eich bod chi'n lladd ar Lywodraeth y DU am y ffordd y mae'n arfer pwerau a gadwyd yn ôl, ac eto'n cwyno pan fydd unrhyw un yn eich beirniadu chi mewn unrhyw ffordd am yr hyn yr ydych chi'n ei wneud mewn cyd-destun datganoledig. Rydych chi bob amser yn mynnu mwy a mwy o bwerau datganoledig, ond eto pleidleisiodd nifer sylweddol o bobl yng Nghymru yn erbyn datganoli. Y tro diwethaf, fe wnaeth y rhai a'i cefnogodd wneud hynny ar sail sicrwydd ar y papur pleidleisio na all y Cynulliad ddeddfu ar...dreth...beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon.
Ac eto, law yn llaw â'r Ceidwadwyr, torrwyd yr addewid hwnnw gennych chi, a datganolwyd pwerau treth incwm heb y refferendwm arall a addawyd. Onid dyna pam nad yw datganoli yng Nghymru wedi'i setlo, ynghyd â'ch penderfyniad i wrthod parchu pwerau a gadwyd yn ôl, a'r ffaith, faint bynnag sy'n cael ei ddatganoli, nid yw byth yn ddigon i wleidyddion yn y fan yma?
Llywydd, os wyf i'n cofio'n iawn—ac efallai fy mod i'n anghywir, oherwydd nid yw bob amser yn hawdd cadw'n gyfredol—roedd yr Aelod yn AS Ceidwadol ar yr adeg y torrodd y Blaid Geidwadol yr addewid a wnaed ganddi i bobl yng Nghymru ynglŷn â refferendwm. Roedd yn AS Ceidwadol, pleidleisiodd dros yr addewid a dorrwyd, ac yna mae'n dod i'r fan yma i gwyno am y peth. Nid oes llygedyn o hygrededd yn yr hyn sydd gan yr Aelod i'w ddweud. Llywydd, rwyf i'n credu mewn datganoli pendant, a dyna'r polisi y bydd y Llywodraeth hon yn ei ddilyn.
Cwestiwn 3, Carwyn Jones. Cwestiwn 3, Carwyn Jones.
Deffrwch.
Roeddwn i'n meddwl fy mod i wedi clywed 'Caroline Jones'. Maddeuwch i mi, Llywydd.