Cymorth Ariannol i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:37 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 10:37, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Carwyn Jones am y cwestiwn yna. Llywydd, mae ein pecyn cymorth busnes gwerth £1.7 biliwn, sy'n cyfateb i 2.6 y cant o'n gwerth ychwanegol gros, yn ategu cynlluniau eraill yn y DU ac yn golygu bod gan gwmnïau yng Nghymru fynediad at y cynnig mwyaf hael o gymorth yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig yn ystod argyfwng y coronafeirws.