Cymorth Ariannol i Fusnesau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:38 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 10:38, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Mae llawer o fusnesau wedi cysylltu â'm swyddfa etholaeth i fynegi eu diolch am y cymorth y maen nhw wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru a chan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, mae rhai busnesau yn dal i bryderu efallai na fyddan nhw'n gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, microfusnesau yn bennaf. A wnaiff y Prif Weinidog roi sicrwydd felly y bydd y dulliau cymorth yn cael eu hadolygu'n gyson i wneud yn siŵr bod cymaint o gymorth a phosibl ar gael i gynifer o fusnesau â phosibl?