Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:32 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Prif Weinidog, rydych chi wedi goruchwylio cyfradd sylweddol uwch o haint COVID-19 yng Nghymru nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig, yn ogystal â sefyllfa economaidd waeth. Er gwaethaf hyn, rydych chi wedi dod o hyd i amser i ddwrdio Llywodraeth y DU ynghylch ei chyfrifoldebau Brexit, ddwywaith gan ddefnyddio'r argyfwng i fynnu eu bod nhw'n ymestyn y cyfnod pontio, wrth i chi geisio atal Brexit unwaith eto. Nawr, rydym ni'n gweld eich Gweinidog adferiad economaidd yn sgil COVID yn troi ei sylw at ymosod ar Lywodraeth y DU ynghylch Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Mae'n ymosod arni am fethu ag ymateb yn ffurfiol i ymgynghoriad ar y Ddeddf Cydnabod Rhywedd, ac, fe'n hysbysir, am ohirio cyhoeddiad yr adolygiad dro ar ôl tro.
A yw'n bosibl y bu gan Lywodraeth y DU flaenoriaethau eraill?