Cynghorau Tref a Chymuned

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 11:04 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 11:04, 15 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr am yr ymateb yna. Mae Cyngor Tref Caergybi wedi trio eu gorau dros y blynyddoedd i wella cyfleusterau i bobl y dref a'r ardal, ac un fenter sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn ydy ailagor sinema'r Empire. Fel gymaint o fusnesau, mi wnaeth yr Empire golli ei incwm yn llwyr oherwydd y pandemig. Mi wnaeth y cyngor gais am arian o'r gronfa gwytnwch economaidd, ond mi gafon nhw wrthod y cais hynny oherwydd bod y sinema yn cael ei redeg gan y cyngor a dydy o ddim yn endid busnes ohono fo ei hun. Mae hyn wedi creu problem fawr i'r cyngor. Mi gaiff sinemâu agor eto mewn cwpwl o wythnosau, ond mi hoffwn i chi ystyried un peth: mi fydd yna gyfyngiad ar eu gallu nhw i godi arian oherwydd na chawn nhw werthu bwyd a diod ar y ffordd i mewn. Mae hwnna'n un mater y byddwn i'n ddiolchgar pe buasech chi'n edrych arno fo. Ond, yn fwy cyffredinol, mi hoffwn i chi edrych ar y rheolau sydd yn golygu bod cyngor tref fel hyn wedi methu â chael gafael ar gymorth ariannol, achos dydw i ddim yn credu ei bod hi'n deg bod cyngor tref fel hyn yn cael ei gosbi am fod wedi trio creu menter ar gyfer eu pobl.