Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 10:13 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Rwy'n gwrthod yn llwyr yr ymadrodd ar ei hôl hi. Rydym ni'n gwneud y pethau sy'n iawn i Gymru. Nid yw hynny'n golygu dilyn unrhyw un arall dim ond am eu bod nhw wedi gwneud rhywbeth yr ydym ni wedi penderfynu peidio â'i wneud.
Llywydd, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny, hoffwn gymryd munud yn hwy nag a fyddwn fel rheol i esbonio safbwynt Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, o gofio ei fod yn fater sydd o ddiddordeb i'r cyhoedd. Yn gyntaf oll, mae'n bwysig meddwl am y cyd-destun yn y fan yma. Mae rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfyngiad ar ryddid dinasyddion Cymru fod yn gymesur â'r perygl i iechyd y cyhoedd a wynebir.
Beth yw cyflwr y feirws yma yng Nghymru? Wel, mae ar ei lefel isaf ers dechrau'r argyfwng. 0.25 y cant—chwarter o 1 y cant—oedd cyfradd y canlyniadau positif yn y 7,000 o brofion y dydd a gynhaliwyd yng Nghymru dros y penwythnos, neu 20 prawf allan o 7,000 yn dod yn ôl yn rhai positif. Mewn cyferbyniad, 7 y cant yw cyfradd y canlyniadau positif yn Blackburn, lle mae cyfyngiadau symud yn cael eu hailgyflwyno—30 gwaith y gyfradd yng Nghymru. Nid oedd un achos positif mewn rhannau helaeth o Gymru dros y penwythnos diwethaf cyfan—14 o'r 22 awdurdod lleol, o'r hyn a gofiaf, heb yr un achos positif wedi'i adrodd. Y prawf cymesuredd: a yw'n gymesur ei gwneud yn ofynnol i holl ddinasyddion Cymru sy'n mynd i mewn i siop wisgo gorchudd wyneb, pan fo'r feirws mewn cylchrediad mor isel yma yng Nghymru?
Yna, y mater o siopau. Wel, mae siopau yn wahanol yng Nghymru gan fod ein rheoliadau yn wahanol. Yn wahanol iawn i'r sefyllfa ar draws ein ffin, bu'r rheol cadw pellter cymdeithasol o 2m mewn rheoliadau gennym ni, a dyna'r sefyllfa ddiofyn yma yng Nghymru o hyd: rhwymedigaeth gyfreithiol ar fusnesau i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau pellter o 2m. Ac, ers dydd Llun, ceir rhwymedigaethau cyfreithiol newydd ar siopau erbyn hyn i gymryd cyfres bellach o fesurau lliniaru pan na ellir cynnal pellter o 2m, ac anfonwyd llythyrau at bob un o'r prif archfarchnadoedd ddoe i sicrhau eu bod nhw'n ymwybodol o'r gyfraith yng Nghymru a'u rhwymedigaeth i gydymffurfio â hi.
Ac yna, yn olaf, Llywydd, a yw hi'n ddiamwys ac yn amlwg yn fanteisiol i wrthod mynediad i siopau i'r rhai nad ydyn nhw'n gwisgo gorchuddion wyneb? Nid yw cyngor ein prif swyddog meddygol wedi newid: mae ganddyn nhw fân fanteision ond mae ganddyn nhw anfanteision pendant hefyd. Mae rhai pobl yn cymryd mwy o risgiau oherwydd eu bod nhw'n gwisgo gorchudd wyneb. Nid yw rhai pobl yn gallu gwisgo gorchuddion wyneb: pobl â chyflyrau ar yr ysgyfaint, pobl â chyflyrau asthmatig. Mae rhai pobl dan anfantais pan fydd pobl eraill yn gwisgo gorchuddion wyneb: pobl â nam ar eu golwg, pobl sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau. Ac, ar ôl iddo ddod yn orfodol, bydd yn rhaid ei orfodi. Felly, Llywydd, rydym ni'n parhau i adolygu'r holl beth. Rwyf i wedi gofyn am ragor o gyngor, er enghraifft, ar awgrymiadau bod archfarchnadoedd mewn cyrchfannau twristiaid wedi bod yn orlawn dros y penwythnos diwethaf wrth i boblogaethau yn yr ardaloedd hynny gynyddu. Byddai defnydd gorfodol o orchuddion wyneb yn rhan o gyfyngiadau symud lleol, pe byddai hynny'n dod yn angenrheidiol, yn sicr yn rhan o repertoire posibl yma yng Nghymru. A phe byddai cyffredinrwydd coronafeirws yng Nghymru yn cynyddu, byddai ein cyngor yn cael ei ailystyried. Yn y cyfamser, y sefyllfa yng Nghymru yw bod gan unrhyw un sy'n mynd i mewn i siop sy'n dymuno gwisgo masg wyneb hawl i wneud hynny. Ein cyngor ni, os yw'n orlawn, yw y dylech chi wisgo un. Ond, a ddylem ni ei wneud yn orfodol o dan yr holl amodau yr wyf i wedi'u disgrifio? A ddylem ni dresmasu ar ryddid pobl i'r graddau hynny? Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y pwynt hwnnw yng Nghymru.