Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:33 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, a gaf i ddiolch i Suzy Davies am ei chwestiwn hi a dweud bod darparwyr prentisiaethau wedi cael cymorth drwy gydol y cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf ar sail taliadau cyfartalog? Rwy'n falch o ddweud bod darparwyr wedi datblygu modiwlau dysgu ar-lein i sicrhau y gall prentisiaid barhau i ddatblygu gyda'u dysgu. Rydym hefyd wedi gweithio gyda darparwyr dysgu a rhanddeiliaid i ddatblygu cynllun cadernid COVID-19 wedi'i gyhoeddi ar gyfer y sector ôl-16.