Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:34 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch i chi am yr ateb yna. Rwy'n nodi na wnaethoch chi sôn yn benodol am brentisiaid newydd, oherwydd fe fydd angen y rheini i adfer economi Cymru. Ond, fel y dywedwch, mae angen inni gadw ein prentisiaid presennol mewn cof. Nid wyf i'n gwybod beth yw'r sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd. A ydym ni'n ystyried ffyrlo i hanner ein prentisiaid adeiladu ni, fel y maen nhw'n gwneud yn Lloegr? Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod prentisiaid presennol yn gallu cwblhau eu prentisiaethau nhw yn hytrach na'u bod yn wynebu diswyddiad? Byddai rhywfaint o fanylion o bosib am hynny'n wych. A sut maen nhw'n helpu cyflogwyr i gadw'r sgiliau hynny ar ôl gorffen y brentisiaeth? Yn benodol, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau na fydd prentisiaethau'n mynd yn fwy anhyblyg nag y maen nhw ar hyn o bryd?