Gwelliannau i'r M4

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:27 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 11:27, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Casnewydd yn falch o weld y cynnydd pellach yn y maes hwn, a'r cynnig ar gyfer lliniaru'r tagfeydd yn yr ardal gan barchu ymrwymiad y Senedd i leihau ein hallbwn carbon ar yr un pryd.

Nawr, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Boris Johnson fod ei Lywodraeth ef yn y DU yn bwriadu caniatáu adeiladu ffordd osgoi dros wastadeddau Gwent. Mater a ddatganolwyd yw'r penderfyniad ynglŷn â'r ffordd osgoi, ac fel y gwyddoch chi, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad y llynedd na fyddai'n cael ei hadeiladu oherwydd y gost a'r effaith ar yr amgylchedd, yn dilyn blynyddoedd o drafod yn Siambr y Senedd hon. Mae'n gwbl amlwg i mi na fyddai Llywodraeth y DU yn gallu newid y penderfyniad hwn heb gyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan, gan wyrdroi'r adrannau perthnasol o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. A wnewch chi ddweud wrthyf i, Gweinidog, beth yw dadansoddiad Llywodraeth Cymru o fygythiad y Prif Weinidog? A ydych chi o'r farn ei fod o ddifrif ynglŷn â datgymalu datganoli, neu a ydych chi'n credu ei fod yn siarad yn fyrbwyll, gan amlygu ei anwybodaeth enwog unwaith yn rhagor? Ac a wnewch chi roi sicrwydd i mi, pe byddai Llywodraeth y DU yn ceisio gwneud hyn, y byddai Llywodraeth Cymru yn barod ac yn eiddgar i fynd â Llywodraeth y DU i'r Goruchaf Lys i'w hatal rhag gwyrdroi democratiaeth Cymru drwy ddictad?