Gwelliannau i'r M4

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:29 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 11:29, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, fe allaf i sicrhau'r Aelod o'r olaf ac rwy'n teimlo nad oedd hyn yn ddim mwy na gorchest wleidyddol. Os oes gan y Prif Weinidog £2 biliwn i'w wario ar seilwaith Cymru, yna mae croeso iddo wneud hynny a gwneud hynny ar fyrder; gan wario'r arian hwnnw ar seilwaith rheilffyrdd yn y De, yn y Canolbarth ac yn y Gogledd, a gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweld trydaneiddio'r prif reilffyrdd, a sicrhau ein bod ni'n gweld gwasanaethau gwell ar y rheilffyrdd i leoedd fel Glynebwy a Maesteg, a sicrhau ein bod ni'n gweld gwelliant ar y rheilffordd o Wrecsam i Bidston. Os oes ganddo £2 biliwn i'w wario yng Nghymru, gall ei anfon yma i Fae Caerdydd ac fe wnawn ninnau ei wario ledled Cymru.