Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:55 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, diolch i chi am hynny. Rwy'n cydnabod bod Lynne Neagle wedi bod yn galw am hyn ers tro, ond fel y nododd y Prif Weinidog yn fanwl iawn yn gynharach, mae'r rhain yn ddyfarniadau anodd ac amlochrog gyda chydbwysedd o ran risgiau. Rydym wedi bod yn ymgysylltu'n agos â'r undebau llafur, gyda'r gweithredwyr ac â grwpiau cydraddoldeb i weithio drwy'r manylion am hyn a sut i'w weithredu, oherwydd wrth i fysiau weld mwy o bobl yn eu defnyddio, fe fydd hi'n amhosib cadw'r canllawiau 2m yn weithredol arnynt. Felly, rydym yn bwriadu rhoi cyfres o fesurau lliniaru ar waith wedyn, gan gynnwys newidiadau peirianyddol, golchi dwylo, diheintyddion ac ati, yn ogystal â gorchuddion wyneb. Nid yw gorchuddion wyneb yn unig, fel y mae Lynne Neagle yn ei gydnabod, yn ddatrysiad hud a lledrith, fel y dywed. Felly, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r gweithredwyr i wneud yn siŵr y codir ymwybyddiaeth am y pethau y mae angen eu gwneud i gadw pobl mor ddiogel ag y bo modd.