Diogelwch Staff ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:53 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 11:53, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog. Roeddwn i'n falch iawn o glywed y cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ddydd Llun y bydd gorchuddion wyneb yn dod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus o ddiwedd mis Gorffennaf ymlaen. Yn bersonol, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n ymestyn hynny i weithwyr mewn siopau cyn gynted ag sy'n bosib. Roedd hwn yn gyhoeddiad a oedd i'w groesawu'n fawr, roedd yn rhywbeth yr oeddwn i wedi gofyn amdano, ac roedd yn rhywbeth yr oedd undebau llafur fel Unite wedi ymgyrchu yn galed drosto. Ond wrth gwrs rydym yn cydnabod hefyd nad yw hwn yn ddatrysiad hud a lledrith ar ei ben ei hun, a'i bod yn hanfodol bod mesurau fel golchi dwylo ac ati yn cyd-fynd â gwisgo'r gorchuddion wyneb hyn. Pa gamau wnaiff y Llywodraeth eu cymryd i sicrhau bod dealltwriaeth eglur iawn gan y cyhoedd o ran nid yn unig wisgo gorchuddion wyneb ond pwysigrwydd cymryd camau eraill i amddiffyn eu hunain a dinasyddion eraill yng Nghymru? Diolch.