Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:50 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 11:50, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, fe fyddwn i'n cytuno'n gyfan gwbl â'r Aelod, ac mae'r Gweinidog cyllid wedi siarad droeon erbyn hyn am y modd y gallem wneud mwy pe byddai gennym bwerau ychwanegol dros fenthyca a mwy o gyfle i ymyrryd. Rwy'n credu mai'r hyn a amlygwyd gan y coronafeirws yw bod Llywodraeth Cymru, hyd yn oed gyda'i hadnoddau ariannol cyfyngedig, wedi gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i fusnesau. Rydym ni'n amcangyfrif bod 34 y cant o fusnesau Cymru wedi gofyn am gymorth gan Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU. Mae'r gymhariaeth â Lloegr yn siarad cyfrolau; dim ond 14 y cant yw'r ffigur dros y ffin. Mae hynny'n dangos y rhan sydd wedi bod gan y Llywodraeth hon yng Nghymru wrth aeafgysgu busnesau trwy'r gwaethaf o'r coronafeirws, ac arbed degau ar ddegau o filoedd o swyddi.