Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:51 am ar 15 Gorffennaf 2020.
Mae pobl sydd â busnesau sy'n gysylltiedig â phriodasau yn dweud wrthyf bod yr amser yn prysur ddiflannu ar gyfer lleoliadau priodasau a'r diwydiant priodasau yn gyffredinol. Mewn arolwg o leoliadau priodasau Cymru, fe ddywedodd 86 y cant fod eglurder a map neu amserlen yn hollbwysig i oroesiad eu busnesau nhw. Mae bron pob sector arall wedi cael caniatâd i agor, ac fe ganiateir dathliadau priodas mawr dan do drwy'r rhan fwyaf o Ewrop, ac erbyn hyn yng Ngogledd Iwerddon hyd yn oed. Roedden nhw'n dweud nad oes modd adfer y sefyllfa mewn llawer o leoliadau heb gael cyhoeddiad yn gyflym iawn. Roedden nhw'n dweud, 'Mae'r diffyg diddordeb ymddangosiadol yn y diwydiant priodasau yng Nghymru yn gwbl resynus' ac roedden nhw'n dweud, 'Nid oes gennym yr amser ar ôl i siarad yn ddiddiwedd heb unrhyw ganlyniad.' Mae yna gymaint o swyddi a busnesau yn y fantol, ac eto i gyd, gyda'r rheolaeth a'r negeseuon cywir, fe ellid eu hachub i gyd yn hawdd. Sut ydych chi am ymateb iddyn nhw?