Cefnogi Busnesau i Ailagor

Part of 3. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 11:52 am ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 11:52, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod ein bod ni'n ymwybodol iawn o'r anawsterau sy'n wynebu lleoliadau priodasau, ac fe fyddwn i'n cyfeirio'r Aelod at y sylwadau a wnaeth y Gweinidog Cyllid, y Trefnydd, yn gynharach. Ond fe fyddwn i'n dweud wrth yr Aelod hefyd, o ganlyniad uniongyrchol i gael Llywodraeth i Gymru a chael cronfa cadernid economaidd i Gymru yn unig, fod busnesau yn y Gogledd wedi gwneud cais am ddegau o filiynau o bunnoedd—tua £55 miliwn, a bod yn fanwl gywir. O ran busnesau lletygarwch, mae dros £5.5 miliwn wedi cael ei ddyfarnu i gannoedd o fusnesau'r Gogledd ac ni fyddent wedi gallu cael y cymorth hwnnw pe bydden nhw wedi eu lleoli yn Lloegr. Rydym yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yn Lloegr.