Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:16 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Diolch am yr ateb yna, Gweinidog. Mae hi yn destun gofid i mi ei bod hi'n ymddangos nad yw pob Llywodraeth yn y DU yn gallu gweithio gyda'i gilydd yn y cyfnod cythryblus hwn i sicrhau y caiff holl ddinasyddion y DU eu trin yn gydradd lle bynnag y maen nhw'n byw, ac mae'n dorcalonnus, er gwaethaf gwahanol fforymau ar gyfer trafod a dadlau, er gwaethaf adroddiadau pwyllgorau'r Senedd a gwir ewyllys am berthynas sy'n parchu datganoli, sy'n gynhwysol ac yn gydweithredol, rwyf wedi darllen rhai o'ch erthyglau diweddar ac nid wyf yn eu gweld naill ai'n adeiladol nac yn gydweithredol. A wnewch chi gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am y diffyg cyd-parch a pherthynas ymarferol, ac, er fy mod yn sylweddoli bod rhaid i'r ddwy ochr weithio ar hyn, beth arall y gallwch chi, Lywodraeth Cymru, a'r Senedd ei wneud i newid hyn? Diolch.