Brexit

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:17 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:17, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, dydw i ddim yn siŵr pa erthyglau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw, ond byddwn i'n dweud fy mod i wedi ceisio ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU yng nghyswllt pob un o'n hymrwymiadau o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r bwriad arfaethedig i wyro o'r cyfnod pontio. Mae wedi bod yn brif flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon sicrhau, er gwaethaf gwahaniaethau gwleidyddol amlwg rhwng y Llywodraeth yma a'r Llywodraeth yn Llundain, mai'r egwyddor arweiniol yw sicrhau bod cynrychiolaeth deilwng ac ystyriaeth deilwng i fuddiannau Cymru yn y penderfyniadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud ar ran y DU. Rydym ni wedi ceisio fel Llywodraeth yn gyson, nid i wneud dim byd ond cwyno, ond i gyflwyno dadl adeiladol dros ddewisiadau amgen ar bob cam. Hyd yn oed mewn amgylchiadau lle nad oes fawr o obaith i'r rheini gael derbyniad gwresog nac effeithio ar y gweithredu yn San Steffan, rydym ni wedi teimlo mai'r peth priodol a chywir i'w wneud ar ran pobl Cymru yw cyflwyno dadl resymegol ar sail tystiolaeth ar bob cam, ac i gymryd pob cyfle posib i ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Ac mae'n fater o rwystredigaeth oherwydd, pan fydd ymgysylltu yn gweithio'n dda, mae'n gynhyrchiol iawn. Rydym ni fel Llywodraeth yn dymuno gweld mwy o hynny.