Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:19 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Ydw, rwy'n cytuno â hynny. Dylai'r egwyddor fod yn un o gydweithredu, a dylai hynny allu digwydd mewn modd lle caiff pob un o bedair Llywodraeth y DU yr un parch a'r un cyfle i gyfrannu. Efallai fod hierarchaeth Seneddol dan ddamcaniaeth gyfansoddiadol y DU, ond mewn gwirionedd nid oes hierarchaeth o lywodraethau, a dylid trin llywodraethau fel rhai cydradd yn y trafodaethau hynny.
O ran y trafodaethau y mae'n cyfeirio atyn nhw yn benodol, bydd yn gwybod o'n trafodaethau yn y pwyllgor ein bod yn siomedig iawn ynghylch diffyg ymwneud gwirioneddol â hynny, hyd yn oed i'r graddau y maent yn ymwneud â materion sydd wedi'u datganoli. Ond, eto, yn y cyd-destun hwnnw, rydym ni, fel Llywodraeth, wedi manteisio ar bob cyfle, ac rwyf wedi ysgrifennu rwy'n credu 10 neu 11 o lythyrau at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn dweud yn glir iawn beth yw ein safbwynt o ran y negodiadau hynny. Ond, mewn gwirionedd, dylai'r rheini fod yn destun trafodaethau yn Y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a fyddai, pe bai'n cyflawni ei gylch gorchwyl, yn galluogi i'r math hwnnw o gyd-gyfrannu ddigwydd—nid yw wedi gwneud hynny eto.