Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:18 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Gweinidog, ar sawl achlysur gerbron y pwyllgor, rydych chi wedi nodi'r heriau yr ydych chi wedi'u hwynebu wrth geisio cael Llywodraeth y DU i gyflwyno syniadau a phenderfyniadau ac i gydweithio mewn gwirionedd â Llywodraeth Cymru. A ydych chi felly, fel finnau, yn gresynu wrth agwedd Llywodraeth y DU at hyn o ran y negodi rhwng yr UE a'r DU, ac y dylid cael mwy o ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, fel bod cydweithredu mewn gwirionedd yn gweithio, ac nid yn cael ei orfodi?