Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:48 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 12:48, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Yn wir, a, Gweinidog, dim ond yr wythnos hon mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi nodi, lai na chwe mis o'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r UE, nad oes gennym ni fanylion o hyd am gronfa ffyniant gyffredin y DU. Nid dim ond Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban sy'n galw am eglurder yn ogystal â cheisio ymgysylltu mewn modd adeiladol ar hyn; mewn gwirionedd, awdurdodau lleol yn Lloegr yn eu holl wahanol liwiau gwleidyddol sy'n dweud, 'Dywedwch wrthym ni beth sy'n digwydd'. Nawr, gwnaeth Prif Weinidog Prydain addewid pendant i bobl Cymru y byddid yn dod o hyd i'r holl arian sy'n mynd tuag at raglenni cymdeithasol ac economaidd a chymunedol yng Nghymru pan fyddwn yn gadael yr UE, a byddai yno i ni ei ddefnyddio a'i wario yn y ffordd yr ydym ni eisiau ei wneud yng Nghymru hefyd. Felly, a gaf i ofyn iddo, a oes ganddo unrhyw ffydd y byddwn, yn fuan iawn, wrth inni ddynesu at yr haf, yn cael eglurder ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU, eglurder y caiff yr holl arian, pob dimai goch y delyn, ei dychwelyd i Gymru, ac y byddwn yn gallu dylanwadu ar y ffordd y gwneir penderfyniadau ynghylch y cyllid hwnnw?