Colled Swyddi a Busnesau

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:46 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 12:46, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n fater pwysig iawn ac, rwy'n credu, yn un o nifer o ragfynegiadau llwm iawn o ran colli swyddi mewn rhannau o Gymru a welsom ni yn ystod yr wythnosau diwethaf. Effeithiwyd yn arbennig o andwyol ar y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, yn amlwg, gan COVID, yn y ffordd y clywsom ni yn cael ei thrafod yng nghwestiynau'r Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Mae wedi bod yn rhan o'n hamcan drwy'r gronfa cadernid economaidd i sicrhau bod cymorth ariannol ar gael i rannau o'r sector hwnnw. Gwn fod y Celtic Manor ei hun wedi elwa i ryw raddau o hynny. Hefyd, byddwn eisiau deall beth arall y gallwn ni ei wneud gan weithio ochr yn ochr â Llywodraeth y DU, sydd wedi gwneud rhai cyhoeddiadau o ran y datganiad yr wythnos diwethaf. Ond byddem yn dweud, mewn gwirionedd, bod rhai sectorau yng Nghymru y mae angen cymorth penodol arnyn nhw yn y dyfodol, cynlluniau penodol i amddiffyn cyflogaeth mewn sectorau penodol, i bob pwrpas, er mwyn gallu rhoi'r amddiffyniad y credwn y gallai fod ei angen, ac yn amlwg, mae hwn yn un sector yr effeithiwyd yn arbennig o andwyol arno. Ond fe gaiff hi ein hymrwymiad, yn amlwg, fel Llywodraeth, i weithio gyda'r Celtic Manor ac unrhyw gyflogwyr eraill sy'n wynebu'r sefyllfa hon, fel y clywsom ni enghreifftiau ohonyn nhw yn y Siambr yn barod y bore yma.