Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:45 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Roedd y newyddion yr wythnos diwethaf am y 450 o ddiswyddiadau posib yn y Celtic Collection, sy'n berchen ar y Celtic Manor Resort a'r ganolfan gonfensiwn ryngwladol yn fy etholaeth i, yn ergyd i Gasnewydd a'r cyffiniau. Deallaf fod 610 o 995 o swyddi wedi'u rhoi yn y categori mewn perygl. Mae'r Celtic Manor wedi bod yn llwyddiant i Gasnewydd a Chymru, ac mae'r ganolfan gynadledda ryngwladol newydd, sydd wedi cael arian gan Lywodraeth Cymru, wedi ychwanegu elfen newydd at hynny. Mae staff y Celtic Collection wedi bod yn bresennol drwy'r amser ac wedi cyfrannu'n helaeth at y llwyddiant hwnnw. Mae'n sicr y bydd eu hangen unwaith eto pan fydd y pandemig wedi mynd heibio. Mae nifer y busnesau bach yn y gadwyn gyflenwi yn helaeth. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion ac eraill ynghylch y cynllun ar gyfer y gyrchfan a'r ganolfan gonfensiwn yn y dyfodol, ac a wnaiff Llywodraeth Cymru bopeth yn ei gallu i annog y cwmni i osgoi colli'r swyddi hyn?