Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:44 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Yn sicr. Y swyddogaeth yw cydlynu ymateb y Llywodraeth o ran cynllunio ar gyfer y cyfnod ailadeiladu, fel y nodwyd yn y datganiad ar y cyd â'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ddoe. Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a Gogledd Cymru sy'n amlwg yn dal yn gyfrifol am bolisi ymyriadau economaidd. Fy swyddogaeth i yw helpu i gydlynu a chael y ddealltwriaeth orau bosib o'r effeithiau tebygol ar Gymru o wahanol agweddau ar COVID, ac i hynny fod yn rhywbeth y gall y Llywodraeth gyfan gydweithio yn ei gylch, fel y gallwn ni weithio mewn ffordd gydgysylltiedig i fynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae ei gwestiwn yn ei awgrymu—felly, rhai o'r ymyriadau sgiliau, gan ddeall y pwyslais penodol y gall fod angen iddynt ei gael, sut maent yn cysylltu â chwestiynau eraill ynghylch, er enghraifft, addysg bellach, addysg uwch a chymorth arall y gallai fod eu hangen ar bobl ifanc yn arbennig. Felly, mae ynglŷn â gwneud yn siŵr bod dealltwriaeth gyffredin ar draws y Llywodraeth, yn seiliedig ar yr ymgysylltu a'r arbenigedd gorau posib, ein bod yn nodi'r risgiau y mae angen i ni fynd i'r afael â nhw, a hefyd, i droi'n ôl at y sylw a wnaeth John Griffiths yn ei gwestiwn yn gynharach, lle mae cyfleoedd yn codi o hynny, ein bod yn gallu eu canfod mewn modd amserol a chefnogi eraill i fanteisio arnynt.