Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:37 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Wel, cyfeiriaf yr Aelodau at y rhestrau yn Llyfrgell y Senedd o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau bord gron a'r broses gynghori arbenigol, nad ydynt, afraid dweud, yn cael eu cynrychioli'n ffyddlon o bosibl yn yr ymyriad gan Darren Millar. Mae wedi anghofio hefyd, rwy'n credu, sôn am y ffaith bod un o'r cyfranogwyr yn aelod o gyngor y cynghorwyr economaidd dan Philip Hammond, ac mae nifer o bobl fusnes yng Nghymru a fyddai'n arddel safbwynt gwahanol iawn o ran llawer o'r materion hyn.
Rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio ei wneud, rwy'n credu gyda llwyddiant, yw sicrhau ystod o leisiau yn y trafodaethau hynny fel y bydd hefyd, yn ogystal â dod â syniadau newydd, yn cynnig her adeiladol, o'r math y byddwn i'n ei groesawu gan Darren Millar rywbryd yn y dyfodol.