4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:27 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Cwestiynau nawr i lefarwyr y pleidiau—Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y wasg yr wythnos yma, mewn ymateb i'r Mesur y farchnad fewnol arfaethedig a ddaeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydych chi'n datgan:
Ni fydd hyn yn cael ei oddef.
Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y Mesur yma, sydd, yn y bôn, yn ymgais gan Boris Johnson i sugno pwerau o'r Senedd yma yn ôl i San Steffan—sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y Mesur yma yn cael ei orfodi ar Gymru?
Mae Dai Lloyd yn cyfeirio at y Papur Gwyrdd arfaethedig wrth Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ynglŷn â'r farchnad fewnol ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mewn egwyddor, rŷn ni'n gweld gwerth i'r syniad o farchnad fewnol i hybu busnesau yng Nghymru i allu llwyddo i werthu eu nwyddau ar draws y Deyrnas Gyfunol gyfan oll. Ond dyw e ddim yn dderbyniol i ni fel Llywodraeth fod y cynnig sy'n dod o'n blaenau ni yn un sy'n cael ei greu gan un rhan o'r Deyrnas Gyfunol a bod hynny'n cael ei orfodi ar y Llywodraethau eraill.
Hynny yw, mae ffordd well o wneud hyn, a'r ffordd well a'r ffordd amgen o wneud hyn yw ar sail yr egwyddorion roeddem ni'n sôn amdanyn nhw y gynnau fach—hynny yw, bod y Llywodraethau yn cael trafod yn hafal ar beth i'w wneud yn y sefyllfa yma ac yn adeiladau ar y fframweithiau cyffredinol sydd wedi cael eu trafod a'u datblygu hyd yn hyn. Mae hynny'n ffordd amgen o ddelio gyda'r sefyllfa hon a hefyd yn tynnu allan o'r sefyllfa y bygythiad i'r setliad datganoli sydd ynghlwm wrth yr egwyddor bod yn rhaid i ni dderbyn nwyddau yn y farchnad yng Nghymru, hyd yn oed os na fyddan nhw yn cysoni gyda'r safonau mae Llywodraeth Cymru, ar ran pobl Cymru, wedi eu gosod.
Rwy'n gobeithio, os bydd gorfod hynny, y byddwn ni'n cael cefnogaeth wrth y Senedd yn ein gwrthwynebiad i hynny, os daw deddfwriaeth gynradd i fwcl maes o law wrth y Llywodraeth yn San Steffan.
Diolch am yr ateb yna. Nawr, ers cyhoeddiad papur Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb, Cydlywodraethu yn y DU', nôl yn yr hydref y llynedd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod galwadau gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth yr Alban a gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i ymestyn cyfnod pontio Brexit. Hefyd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau gyda'i chytundeb ymadael, er i Senedd Cymru a Senedd yr Alban wrthod cydsyniad deddfwriaethol. Ydy'ch amcanion chi, felly, fel Llywodraeth Cymru, a luniwyd yn eich papur, 'Diwygio ein Hundeb', yn fwy neu yn llai tebygol o gael eu gweithredu nawr, ynteu freuddwyd ffôl ydy cydraddoldeb llywodraethu yn y Deyrnas Unedig?
Dwi ddim yn derbyn y term 'breuddwyd ffôl' a buasai fe ddim yn derbyn hynny, efallai, petaswn i'n disgrifio'i amcanion cyfansoddiadol e yn y ffordd honno. Felly, mae'n rhaid derbyn bod safbwyntiau gwahanol gyda ni ar y ffordd ymlaen. Dwi ddim yn derbyn mai dyma'r unig ffordd gallai'r undeb weithio. Yr holl bwynt yn y ddogfen y mae e'n ei disgrifio yw bod gennym ni ddadl amgen ar sut y gallai'r undeb weithio'n well ym muddiannau Cymru.
Rwy'n derbyn yn sicr nad yw'r strwythurau sydd gyda ni a'r berthynas sydd gyda ni yn y ffordd maen nhw wedi'u strwythuro ar hyn o bryd yn gweithio—dŷn nhw ddim. Mae'r broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi amlygu hynny'n gryfach fyth. Ond, y galw sydd gyda ni fel Llywodraeth yw i ddiwygio hynny mewn ffordd elfennol iawn, ac mae'r ddogfen honno'n dal i ddangos llwybr tuag at hynny. Ond, mae yn golygu bod angen Llywodraeth yn San Steffan sydd yn barod i ymwneud â'r broses honno, ac yn barod i ddelio â'r Llywodraethau eraill sydd mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r egwyddorion hynny.
Diolch am hynna eto. Yng ngwyneb mwyafrif sylweddol y Torïaid yn San Steffan, mae'n amlwg i bawb nad San Steffan fydd yn arwain y ffordd i ddiwygio undeb y Deyrnas Unedig er gwell. Colli pwerau yr ydym ni'n fan hyn, a chi, fel Llywodraeth Cymru, yn cael eich hanwybyddu dro ar ôl tro. Felly, beth yw eich cynllun chi? Parhau i gael eich hanwybyddu a Chymru yn parhau i golli grymoedd? Cyw iâr clorinedig, unrhyw un? Os nad annibyniaeth i Gymru, felly beth?
[Anghlywadwy.]—San Steffan o dan Keir Starmer sy'n barod i ddiwygio'r undeb ar yr egwyddorion rŷm ni fel plaid wedi'u harfer yma yng Nghymru ers cyfnod hir iawn.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch, Llywydd. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud mewn cysylltiad â'i gyfrifoldebau o ran adfer ar ôl COVID?
Yn sicr. Cyfeiriaf yr Aelod at y datganiad a gyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a minnau ddoe, sy'n rhoi ymdeimlad, rwy'n credu, o sut yr ydym yn gweithio.
Do, gwelais y datganiad a gyhoeddwyd ddoe—y rhuthrwyd i'w ryddhau mae'n siŵr cyn ichi ymddangos gerbron y Senedd heddiw. Oherwydd y gwir amdani yw mai yn ysbeidiol iawn yr ydych chi wedi siarad yn rhinwedd y swyddogaeth bwysig hon, sydd, wrth gwrs, yn mynd i ddod yn bwysicach fyth wrth i amser fynd rhagddo. Felly, mae cyhoeddi datganiadau yma ac acw sydd mor bell oddi wrth ei gilydd fel eu bod, a dweud y gwir, fel comed—comed Halley, efallai—yn annerbyniol yn fy nhyb i.
Nawr, rydym ni wedi clywed cyfeiriadau yn y Siambr hon heddiw—ac rwy'n credu eich bod wedi cyfeirio ato, hefyd—at y ffordd bwyllog y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i ailagor Cymru. Ond, y gwir amdani yw y buoch chi'n fyrbwyll cyn belled ag y mae ein heconomi yn y cwestiwn. Ac mi fuoch chi'n fyrbwyll o ran yr effeithiau hirdymor posibl ar iechyd yn sgil eich cyfyngiadau symud mwy caeth ar ein heconomi hefyd. Nid oeddech yn ochelgar, ychwaith, o ran profi preswylwyr mewn cartrefi gofal neu'r staff mewn cartrefi gofal, ac nid ydych chi wedi bod yn ofalus o ran defnyddio gorchuddion wyneb gorfodol, ychwaith. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni beth yw effaith economaidd y cyfyngiadau symud mwy caeth yma yng Nghymru, a pham mae Llywodraeth Cymru yn parhau i lusgo'i thraed pan allem ni fod yn ailagor mwy pe byddai agwedd fwy gochelgar ynglŷn â phethau fel mygydau wyneb?
Wel, rwy'n deall y naratif y mae meinciau'r Ceidwadwyr, yn amlwg, yn ceisio'i ddatblygu heddiw ynghylch yr agwedd hon, ond byddwn yn ailadrodd y sylw a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau yn gynharach, sef nad yw'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn mynd ati yn un sy'n creu anghysondeb rhwng iechyd y genedl â lles yr economi. Holl Strategaeth Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn, wedi'i gynghori gan ein cynghorwyr meddygol a'n cynghorwyr gwyddonol, yw cymryd yr agwedd bwyllog honno, a chredaf fod hynny'n cael ei gadarnhau gan y canlyniadau o ran atal y feirws yng Nghymru.
Rwy'n credu, os yw rhywun yn siarad â'r rhan fwyaf o fusnesau, yn sicr, mae cydnabyddiaeth bod y dull tryloyw hwnnw, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wedi ein harwain at y lle yr ydym ni heddiw oherwydd parodrwydd pobl Cymru i ymateb i hynny fel y gwnaethant, a chredaf fod pawb yn deall y byddai'r difrod o ail gyfres o gyfyngiadau symud o'r math y buom drwyddynt yn sylweddol iawn ar economi Cymru. Ac rwy'n credu, felly, ei bod hi'n ymddangos i mi fod cryn dipyn o gefnogaeth i'r dull o geisio osgoi hynny, os gallwn ni o gwbl.
Rydych chi'n dweud y buoch chi'n fwy gofalus am resymau iechyd, ond rwyf newydd ddyfynnu o leiaf dwy enghraifft lle na fu dull gofalus, yn sicr o ran gorchuddion wyneb ac o ran profi preswylwyr a staff cartrefi gofal. Felly, nid yw'n wir i ddweud yr aethoch chi ati mewn ffordd fwy pwyllog, yn sicr o ran y ddau beth hynny.
Ac rwy'n gofyn i chi eto: pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith tymor hwy ar iechyd pobl o ganlyniad i'ch cyfyngiadau symud hirach? Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod bod gwledydd tlotach yn tueddu i fod â chanlyniadau gwaeth o ran iechyd eu poblogaethau, ac ofnaf eich bod yn gwneud llanast o'r adferiad economaidd a allai fod oherwydd eich cyfyngiadau symud hirach.
Nawr, rwy'n derbyn, rwy'n derbyn yn llwyr, bod yn rhaid i chi daro'r cydbwysedd cywir rhwng pryderon iechyd a phryderon economaidd, ond rwy'n ofni na fu unrhyw gydbwysedd hyd yn hyn, ac yn sicr nid o ran eich panel arbenigol yma yng Nghymru. Mae aelodaeth eich panel, wrth gwrs, yn cynnwys Gordon Brown, y cyn-Ganghellor a'r Prif Weinidog sy'n gyfrifol am roi'r wlad yn y sefyllfa waethaf bosib yn ystod dirywiad economaidd 2008, gan ddim ond hercian yn ôl i adferiad wedi bron iawn â gwneud y wlad yn fethdalwr; cyn-gynghorwr i Ed Miliband, a'r un a feddyliodd am 'Garreg Ed', neu 'y garreg fedd' fel y daethpwyd i'w hadnabod, sydd bellach yn arwain melin drafod sy'n gogwyddo tua'r chwith; ac, wrth gwrs, arweinydd melin drafod sosialaidd sydd ar bellafoedd yr adain chwith sydd wedi dadlau dros wythnos waith 21 awr, cael gwared ar fesur GDP o ran twf economaidd, ac yn wir wedi dweud nad yw twf economaidd yn bosibl mewn gwirionedd. Felly, mae gennym ni gyn-Brif Weinidog a Changhellor a oedd yn gyfrifol am y ffyniant a'r methiant mwyaf a welodd ein gwlad erioed, cyn-gynghorydd arbennig, a sosialydd nad yw hyd yn oed yn credu mewn twf economaidd. Sut ar y ddaear y mae hynny'n mynd i helpu'r wlad hon ailgodi yn y ffordd y mae fy mhlaid eisiau ei gweld yn ailgodi o ganlyniad i'r pandemig hwn?
Wel, cyfeiriaf yr Aelodau at y rhestrau yn Llyfrgell y Senedd o'r rhai sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau bord gron a'r broses gynghori arbenigol, nad ydynt, afraid dweud, yn cael eu cynrychioli'n ffyddlon o bosibl yn yr ymyriad gan Darren Millar. Mae wedi anghofio hefyd, rwy'n credu, sôn am y ffaith bod un o'r cyfranogwyr yn aelod o gyngor y cynghorwyr economaidd dan Philip Hammond, ac mae nifer o bobl fusnes yng Nghymru a fyddai'n arddel safbwynt gwahanol iawn o ran llawer o'r materion hyn.
Rwy'n credu mai un o'r pethau yr ydym ni wedi ceisio ei wneud, rwy'n credu gyda llwyddiant, yw sicrhau ystod o leisiau yn y trafodaethau hynny fel y bydd hefyd, yn ogystal â dod â syniadau newydd, yn cynnig her adeiladol, o'r math y byddwn i'n ei groesawu gan Darren Millar rywbryd yn y dyfodol.
Cwestiwn 3, John Griffiths.