Masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 1:00 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 1:00, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, heb gytundeb masnach rydd sy'n cwmpasu'n sylweddol yr holl fasnach mewn cynhyrchion sy'n tarddu o'r DU neu'r UE, yna byddai'r DU a'r UE yn masnachu ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Ac mae egwyddor y wlad a ffefrir fwyaf, y soniodd amdano yn ei gwestiwn atodol, yn golygu na all Aelodau Sefydliad Masnach y Byd wahaniaethu fel arfer rhwng partneriaid masnachu. Mae rhai mesurau—rhai mesurau diogelu—ar fewnforio cynhyrchion dur penodol, a fydd yn parhau i fod ar waith. Ond unwaith y bydd y DU yn gyfan gwbl y tu allan i'r UE, ac os nad oes cytundeb masnach di-dariff, caiff hyn hefyd effaith ar allforion i'r UE o ddur o'r DU. A gallai'r effaith a gaiff cwotâu cyfradd tariff fod yn sylweddol iawn, yn arwyddocaol iawn, ac yn niweidiol iawn i ddur Cymru a'r DU. Rydym ni yn cefnogi'r diwydiant dur yn ei nod i'r DU sicrhau cytundeb masnach rydd cynhwysfawr ar ôl i ni adael y cyfnod pontio, ac rydym ni yn pryderu'n fawr iawn am rai o'r amcangyfrifon y mae UK Steel yn eu gwneud ynghylch yr effaith andwyol ar y sector o ran costau ychwanegol os nad yw hynny wedi'i gwblhau'n llwyddiannus.