Masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd

Part of 4. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 12:59 pm ar 15 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 12:59, 15 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gweinidog. A allwch chi gadarnhau, heb gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd, o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd bod yn rhaid i bob Aelod roi'r un mynediad i'r farchnad i holl Aelodau eraill Sefydliad Masnach y Byd ar sail y wlad a ffefrir fwyaf, nid dim ond dewis a dethol y rhai y maent yn eu hoffi? Yn ôl a ddeallaf, os nad oes gennym ni dariffau ar ddur Ewropeaidd, byddai hynny'n golygu na allem ni gael tariffau ar ddur Tsieineaidd. Pa effaith a gâi hynny ar y diwydiant dur yng Nghymru?