Part of the debate – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 15 Gorffennaf 2020.
Dirprwy Lywydd dros dro—rŷch chi wedi cael tri therm yn barod y prynhawn yma.
Brif Weinidog, hwn fydd y datganiad deddfwriaethol olaf ar gyfer y Senedd hon. Rwy'n ddiolchgar iawn am ichi rannu copi â ni, a hefyd am y cynnig i drafod gyda chi ymhellach yn ystod yr hydref. Cyn hyd yn oed i'r COVID ein taro, digon cymysg oedd ein hasesiad ni o'r Mesurau rŷch chi fel Llywodraeth wedi penderfynu eu dwyn gerbron a'u cefnogi dros gyfnod y Senedd hon, mewn gwirionedd. Hyd yn oed yn y ddeddfwriaeth y byddwch yn parhau â hi, er gwaetha'r creisis, fel y diwygiadau i'r Ddeddf rhentu cartrefi—mae eu cynnwys nhw yn rhwyfo nôl ar ymrwymiadau y gwnaethoch chi a'ch plaid, yn achos no-fault evictions, er enghraifft, lle rŷch chi'n diwygio'r ddeddfwriaeth i ymestyn y cyfnod rhybudd o ddau fis i chwe mis, yn lle gwneud i ffwrdd â'r arfer yn llwyr. Ni fydd hyn yn rhoi sicrwydd sydd ei angen ar bobl sy'n rhentu.
Dros gyfnod y Senedd hon, mae Plaid Cymru wedi gwthio am ddeddfwriaeth i wasgaru cyfoeth, gwariant a buddsoddiad yn gyfartal dros Gymru gyfan, Deddf i grynhoi'r gefnogaeth statudol i fioamrywiaeth ac i fywyd gwyllt, ac fe wnaethon ni ddefnyddio'r cyfleoedd seneddol i'r eithaf i geisio dylanwadu ar yr amserlen ddeddfwriaethol yn y lle hwn, gyda Dr Dai Lloyd, er enghraifft, yn cynnig Mesur i warchod enwau lleoedd Cymraeg, sydd wedi cael tipyn o gefnogaeth o feinciau cefn, erbyn hyn, eich plaid chi.
Ac o ran yr olaf o'r themâu yma, mae'n rhaid imi nodi bod gyda ni bryderon gwirioneddol ynghylch ymwneud y Llywodraeth hon â'r ddeddfwriaeth ym maes y Gymraeg. Collwyd ffocws dros flwyddyn a hanner a mwy yn brwydro cynlluniau'ch Llywodraeth, i ddatgymalu Mesur y Gymraeg a Chomisiynydd y Gymraeg, a nawr rŷn ni'n wynebu brwydr eto dros yr iaith ym Mil y cwricwlwm. Mae fel petai'r Llywodraeth yn benderfynol o ddefnyddio'i grym deddfwriaethol i lesteirio yr amcanion rŷn ni i gyd am eu gweld, yn hytrach na'u hwyluso.
Wrth gwrs, rŷn ni'n wynebu dau greisis ar hyn o bryd: COVID a Brexit, wrth gwrs, yr un pryd. Mae'r Comisiwn Ewropeaidd a'r Llys Ewropeaidd yn chwarae rhan allweddol mewn llywodraethiant amgylcheddol, a bydd angen sicrhau bod hyn yn cael ei drosglwyddo mewn i gyfraith Cymru wrth inni adael y cyfundrefnau yma. Does dim deddfwriaeth eto i gau'r bwlch amgylcheddol fydd yn bodoli ar ddiwedd Rhagfyr wedi'i gyflwyno. Roeddech chi yn lled gyfeirio at hyn yn y datganiad. Allwch chi gadarnhau pryd welwn ni'r ddeddfwriaeth ar roi'r trefniadau i ddiogelu llywodraethiant amgylcheddol ar waith yng nghyfraith Cymru?
Roeddwn i'n falch o glywed y bydd deddfwriaeth sy'n ymateb i argyfwng COVID yn cael ei blaenoriaethu. Un mater penodol sydd wedi'i godi gan Delyth Jewell a Helen Mary Jones—wnewch chi edrych o ddifrif ar yr angen am ddeddfwriaeth frys ym maes trwyddedu a chynllunio i gefnogi busnesau ym maes lletygarwch neu i gefnogi awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw i weithredu ar y stryd yng nghanol trefi, er enghraifft?
Gwnaeth y Llywodraeth dderbyn yng nghyd-destun y grantiau COVID i fusnesau bach yr angen i roi gwarchodaeth benodol mewn canllawiau i osgoi camddefnyddio'r gefnogaeth sydd i wir fusnesau hunanarlwyo. Beth yw'ch cynlluniau i gryfhau deddfwriaeth gynradd fel bod perchnogion ail gartrefi yn talu treth ac yn peidio â manteisio'n anghywir ar gefnogaeth i fusnesau bach?
Gaf i erfyn, Brif Weinidog, er gwaethaf y cyfyngiadau a'r heriau yn gysylltiedig â Brexit a COVID a'r holl fanion eraill, gan gynnwys is-reoliadau tatws—mae'n rhaid delio â nhw hefyd—arnoch chi i gydio yn yr ychydig fisoedd sy'n weddill i greu gwir waddol at y dyfodol, fel y gallwn ni i gyd fod yn falch yn neddfwriaeth y pumed Cynulliad, ddaeth yn bumed Senedd, er gwaethaf yr holl heriau?
Allwn ni gytuno y prynhawn yma, er enghraifft, fod yn rhaid i hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys hanes pobl ddu a phobl o liw, fod yn statudol, fod yn greiddiol yn y cwricwlwm newydd? Allwn ni gytuno hefyd heddiw bod yn rhaid peidio â gwastraffu amser yn ailagor creithiau'r gorffennol ac i ollwng y cymal dadleuol am y Saesneg yn y cwricwlwm newydd, gan ganolbwyntio'n hytrach ar sicrhau bod y cwricwlwm yn fframwaith i wireddu rhuglder ein dinasyddion ni i gyd yn y Gymraeg? Ac allwn ni gytuno y bydd Cyfnod 2 y Bill llywodraeth leol yn cael ei ddefnyddio i greu naid enfawr ymlaen o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynrychiolaeth yn ein hawdurdodau lleol, STV ym mhob cyngor, rhannu swyddi a gweithredu cadarnhaol?