Part of the debate – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 5 Awst 2020.
Diolch ichi, Lywydd, ac rwy'n cynnig y tair set o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol, a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi pob un o'r tair set o reoliadau. Fel gyda'r rheoliadau a'u rhagflaenodd, cafodd y tair set o reoliadau sy'n cael eu trafod heddiw eu cyflwyno o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein dull cenedlaethol o fynd i'r afael â coronafeirws yma yng Nghymru.
Wrth i bandemig y coronafeirws barhau, rydym wedi adolygu'n barhaus y cyfyngiadau y bu'n rhaid eu gosod ar unigolion, busnesau a sefydliadau eraill i reoli'r argyfwng iechyd cyhoeddus gwirioneddol anarferol hwn. Mae'r adolygiad parhaus o'r rheoliadau yn ychwanegol at y cylch adolygu 21 diwrnod sy'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu'r angen am gyfyngiadau a gofynion bob 21 diwrnod. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ceisio llacio'n raddol ystod o gyfyngiadau sy'n gymwys i Gymru fel y mae amgylchiadau wedi caniatáu. Mae'r rheoliadau sydd gerbron y Senedd heddiw'n parhau'r broses honno. Unwaith eto, mae'r holl newidiadau a gyflwynir gan y rheoliadau hyn yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a chyngor iechyd y cyhoedd ynghylch pa gyfyngiadau sy'n fwyaf diogel i'w dileu neu eu newid tra'n diogelu rhag unrhyw gynnydd yn lledaeniad y feirws yma yng Nghymru.
Roedd y rheoliadau Rhif 2 yn dirymu ac yn disodli'r darpariaethau blaenorol a nodir yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a'u diwygiadau dilynol. Daeth y rheoliadau hyn i rym ar 11 Gorffennaf mewn perthynas ag agor darpariaethau llety gwyliau hunangynhwysol, ac yn llawn o ddydd Llun 13 Gorffennaf eleni. Er bod y rheoliadau'n dirymu'r rheoliadau gwreiddiol, roeddent hefyd yn ailsefydlu, gyda rhywfaint o lacio, gofynion ar gyfer cau busnesau sy'n gwerthu bwyd neu ddiod, llety gwyliau a busnesau eraill i ddiogelu rhag y risg i iechyd y cyhoedd yn deillio o coronafeirws. Roeddent hefyd yn cyflwyno'r ddyletswydd ar awdurdodau lleol, awdurdodau parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gau llwybrau troed neu fynediad i dir er mwyn atal niferoedd mawr o bobl rhag ymgasglu neu fod yn agos at ei gilydd ac i gyhoeddi rhestr o'r mannau a gaewyd ar eu gwefannau.
Roedd y rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer nifer sylweddol o ddarpariaethau llacio yn y cyfyngiadau a oedd mewn grym yn flaenorol. Felly, drwyddynt, rydym wedi dileu'r gofyniad i gau'r categorïau canlynol o fusnesau: siopau trin gwallt a siopau barbwr, llety hunangynhwysol a lletygarwch awyr agored. Rydym wedi caniatáu i addoldai ailddechrau gwasanaethau awyr agored a gwasanaethau cynulleidfaol dan do mewn rhai ardaloedd. Rydym wedi caniatáu i sinemâu awyr agored agor ac wedi caniatáu ar gyfer gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu, hyd at uchafswm o 30 o bobl, os bydd y trefnwyr yn bodloni gofynion diogelwch COVID. Rydym wedi diwygio'r gofyniad 2m ac wedi rhoi gofyniad yn ei le i roi mesurau rhesymol ar waith i leihau'r risg o ddal coronafeirws. Mae hynny'n cynnwys cadw pellter o 2m, cyfyngu ar ymwneud wyneb yn wyneb, cynnal safonau hylendid a darparu gwybodaeth ar sut i leihau'r risgiau o ddal y feirws.
Daeth y rheoliadau diwygio Rhif 2 i rym ar 20 Gorffennaf. Roeddent yn caniatáu ar gyfer llacio cyfyngiadau coronafeirws ymhellach drwy ailagor meysydd chwarae a champfeydd awyr agored a ffeiriau, ac yn egluro y gall pobl ymgynnull mewn addoldai.
Yn olaf, daeth yr ail set o reoliadau diwygio i rym ar 3 Awst. Mae'r rheoliadau hyn yn darparu mwy fyth o ryddid i ymgysylltu ac yn dychwelyd at rywbeth sy'n nes at yr hyn a oedd yn fywyd normal i lawer o bobl, drwy ganiatáu i hyd at 30 o bobl ymgynnull, caniatáu i letygarwch dan do mewn tafarndai, bariau, caffis a bwytai ailagor, a chaniatáu i alïau bowlio, neuaddau bingo ac ystafelloedd arwerthu ailagor.
Mae'r cyfyngiadau a roddwyd ar waith i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws wedi bod, ac yn parhau i fod yn ddigynsail. Fodd bynnag, mae'r gyfraith yn nodi'n glir mai dim ond cyhyd â'u bod yn angenrheidiol ac yn gymesur y gellir cadw'r cyfyngiadau hynny mewn grym. Roedd y cynllun a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mai yn addo dull gofalus a chydlynol o lacio'r cyfyngiadau drwy newid rheoleiddiol graddol. Mae'r rheoliadau y bydd yr Aelodau'n pleidleisio arnynt heddiw'n helpu i wireddu'r addewid hwnnw, a gofynnaf i'r Senedd eu cefnogi.