Mercher, 5 Awst 2020
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i adalw’r Senedd o dan Reol Sefydlog 34.9. Cyn inni ddechrau, dwi eisiau ychwanegu ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â...
Felly, yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar COVID-19. Dwi’n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i symud y cynigion. Darren Millar.
Dwi'n galw felly ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r cynigion ar y rheoliadau. Vaughan Gething.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd...
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia