3., 4. & 5. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 5 Awst 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:55, 5 Awst 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl. Fe geisiaf ymateb i'r pwyntiau amrywiol. Efallai na lwyddaf i fynd drwy'r cyfan o ystyried nifer y pwyntiau penodol a wnaethpwyd. O ran ymdrin â'r pwyntiau a godwyd gan y pwyllgor, rwyf wedi ysgrifennu at y pwyllgor. Nid wyf yn gwybod a yw'r llythyr wedi cyrraedd y Cadeirydd eto, ond rwy'n meddwl y bydd yn ymdrin â'r pwyntiau a godwyd yn y pwyntiau adrodd, am y materion technegol a'r materion rhagoriaeth hefyd. Felly, byddant i gyd ar gael ac ar glawr.

Rwy'n meddwl fy mod am ymdrin â'r pwynt cyntaf a wnaeth Mark Reckless ynglŷn â pham ein bod wedi dirymu'r rheoliadau gwreiddiol i gael cyfres newydd o reoliadau i'w diwygio. Y rheswm am hynny, yn syml, yw ein bod yn credu y byddant yn set fwy cydlynol o reoliadau i'w gwneud yn gliriach ac yn fwy amlwg i'r Aelodau ac i'r cyhoedd ac i bobl sy'n ceisio dilyn y rheoliadau, yn hytrach na pharhau i ailaddasu'r rheoliadau gwreiddiol.

O ran y pwyntiau a wnaeth Rhun ap Iorwerth ac Andrew R.T. Davies ar orchuddion wyneb, mae'n ffaith fod hwn yn fater byw, ac nid yn unig yn destun trafod ymhlith y cyhoedd, ond hefyd yn destun sgyrsiau rheolaidd a gawn gyda'n cynghorwyr gwyddonol a chyda'r prif swyddog meddygol, am sefyllfa bresennol y dystiolaeth, a'r dystiolaeth sy'n cael ei hadolygu, a'r ymarfer hefyd. Felly, yn Ysbyty Maelor Wrecsam, mae yna sefyllfa benodol, a dyna pam y mae angen gorchuddion wyneb bellach ar bobl sy'n mynd i'r safle hwnnw. Nid oes angen cael rheoliadau gan y Llywodraeth er mwyn i'r gofyniad hwnnw fod yn real. Ond byddwn yn parhau i adolygu'r hyn a fyddai'n digwydd yn gyffredinol, gyda lledaeniad cyfredol y coronafeirws, ond pe bai gweithredu lleol, mae'r potensial ar gyfer defnydd pellach o orchuddion wyneb yn fater y gellid ei adolygu ymhellach, yn union fel y gwnaethom gyda thrafnidiaeth gyhoeddus, lle rydym yn cydnabod nid yn unig fod yna faterion trawsffiniol yn codi, ond wrth gwrs, ceir her wrth i fwy o bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, ac mae cadw pellter cymdeithasol yn llawer mwy tebygol o fod yn anodd, a chyngor presennol y prif swyddog meddygol yw argymell defnyddio gorchuddion wyneb lle nad yw'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Rydym yn cydnabod, mewn gwirionedd, er mwyn cadw pethau'n syml hefyd, mai gwneud hynny'n orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus oedd y peth iawn i'w wneud. Felly, rydym yn parhau i ystyried tystiolaeth ar realiti ymarferol lle'r ydym arni ar orchuddion wyneb, fel yn wir ar ystod eang o feysydd.

Rwyf am fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaeth Andrew R.T. Davies am Roald Dahl Plass a lleoliadau eraill. Wrth gwrs, dylwn ddweud bod Roald Dahl Plass yn fy etholaeth i, Lywydd, ac rwy'n cydnabod pryder amryw o bobl sy'n dod i Fae Caerdydd at ddibenion hamdden a dibenion eraill, ac mae peth o'r ymddygiad yn heriol. Mae hynny'n ymwneud yn rhannol ag ymgysylltu, ond hefyd â gorfodaeth. Ac ynglŷn â'r pwynt am ymddygiad y cyhoedd, dyna sydd wedi ein galluogi i gyrraedd y pwynt lle rydym wedi llacio ymhellach, ac efallai y gallwn lacio rhagor eto. Ond ymddygiad y cyhoedd hefyd sy'n creu'r risg fwyaf i allu parhau i lacio'r mesurau sy'n dal i fod gennym i gyfyngu ar ddewisiadau unigolion a chymunedau. Ymddygiad y cyhoedd fydd yn gochel orau rhag cynnydd pellach yn lledaeniad coronafeirws drwy'r hydref a'r gaeaf. Mae angen inni ymdrin â gorfodaeth lle mae pobl i'w gweld yn torri'r rheoliadau, ond hefyd mae angen inni atgoffa pobl ynglŷn â risgiau'r dewisiadau hynny i unigolion a phobl, nid yn unig y problemau gyda sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond wrth inni fynd drwy'r hydref a'r gaeaf, beth y gallai hynny ei olygu o ran cynnydd yn lledaeniad y coronafeirws, fel y gwelsom mewn gwledydd eraill lle mae nifer yr achosion yn isel. Dyna'r rheswm pam, er enghraifft, fod Aberdeen bellach dan gyfyngiadau lleol yn yr Alban. Felly, mae'n fater i bob un ohonom yn y dewisiadau a wnawn fel arweinwyr cymunedol. Mae'n fater i ni fel unigolion yn ein cymunedau i geisio sicrhau bod coronafeirws yn cael ei atal. Ac o fewn hynny, rwy'n meddwl yn glir iawn am yr effaith ar fusnesau yn ogystal ag unigolion.

Hoffwn weld mwy o gyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted â phosibl, mor ddiogel ag sy'n bosibl, a dyna'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio ei wneud o hyd. Ond mae hynny'n mynd i fod o fewn cyd-destun o weithredu'n fwriadol bwyllog i gadw Cymru'n ddiogel. Geilw hynny am eglurder yn ein cyfathrebu, ac rwy'n credu, er bod Plaid Brexit yn gwrthwynebu'r dull rydym yn ei ddilyn—ac maent wedi bod yn gyson yn hynny—byddai hyd yn oed pobl sy'n anghytuno ag ymagwedd y Llywodraeth hon yn cydnabod y cafwyd lefel glir a chyson o gyfathrebu mewn meysydd lle mae pobl yn anghytuno â ni. Credaf fod eglurder yn bwysig iawn, ac rwy'n credu bod hynny'n helpu'r cyhoedd i ddeall y rheolau a gwneud dewisiadau yn eu cylch.

O ran ein cynllun ar gyfer y dyfodol, rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Prif Weinidog, y prif swyddog meddygol a'n prif gynghorwyr gwyddonol, ond rwyf wedi nodi y byddwn yn cyhoeddi cynllun ar ddechrau'r hydref ar gyfer paratoi ar gyfer yr hydref a'r gaeaf. Roedd yn newyddion i'w groesawu y bydd gennym fwy o arian ar gael. Cyhoeddwyd hynny heddiw yn dilyn datganiad gennyf i a'r Gweinidog cyllid. O fewn hynny, byddaf hefyd yn nodi, fel y nododd y Prif Weinidog—cyn hynny, yn hytrach—y cydbwysedd rhwng gweithredu lleol a chenedlaethol a sut olwg fydd ar hynny.

Nawr, rhan yn unig o'n hymateb i reoli'r pandemig coronafeirws yma yng Nghymru yw'r rheoliadau hyn wrth gwrs, a byddwn yn parhau i weithredu i reoli'r pandemig a diogelu'r cyhoedd. O'u cymryd fel pecyn o fesurau, credaf fod y rheoliadau'n synhwyrol ac yn gymesur. Mae'r newidiadau wedi mynd gryn ffordd tuag at ddychwelyd at fywyd cymdeithasol ac economaidd mwy normal yng Nghymru. Mae elfen o risg yn gysylltiedig â hyn o hyd, ond ni chredwn fod y risg honno'n ormodol.

Mae angen i bob un ohonom gofio nad yw'r feirws wedi diflannu ac mae angen inni ddal ati i ddilyn y negeseuon, yn enwedig ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, er mwyn cadw pob un ohonom yn ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel. Edrychaf ymlaen at lacio ymhellach yn yr amser sydd ar gael i ni, ond byddaf hefyd, fel y bydd y Llywodraeth, yn parhau i roi pob mesur sy'n bosibl ac yn angenrheidiol ar waith er mwyn cadw pobl Cymru yn ddiogel. Ac efallai y bydd hynny'n golygu bod angen inni ddiwygio'r rheoliadau hyn ymhellach er mwyn symud y llacio i'r cyfeiriad arall. Ond fel y dywedaf, gobeithio y gallwn roi camau pellach ar waith i sicrhau bod y cyfyngiadau'n cael eu llacio ymhellach i bob cymuned ar draws y wlad. Diolch i'r Aelodau am gyfrannu at y ddadl a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw.