Cymorth i Bobl Awtistig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:10, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae argyfwng y coronafeirws wedi bod yn arbennig o anodd i bobl awtistig. Gan weithio gydag eraill, mae Llywodraeth Cymru wedi canolbwyntio ar gymorth ymarferol a chanllawiau penodol i'r rhai sy'n cael eu heffeithio. Y mis diwethaf, er enghraifft, ac ar y cyd â Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, cyhoeddwyd cyngor gennym ar orchuddion wyneb ar gyfer pobl awtistig ar gludiant cyhoeddus.