Mawrth, 15 Medi 2020
Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Felly, i gychwyn, dwi eisiau hysbysebu'r Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020 wedi cael y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas yn ystod pandemig COVID-19? OQ55524
2. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o'r risgiau i gyllid cyhoeddus o ganlyniad i'r pandemig COVID-19? OQ55514
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i bobl awtistig yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55500
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y strategaeth profi, olrhain a diogelu ar gyfer coronafeirws? OQ55520
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd yng Nghaerffili? OQ55522
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailfandio'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ55528
Cwestiynau nesaf i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, ac mae'r cwestiwn cyntaf yna gan Darren Millar.
1. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am ryddid i addoli yng Nghymru? OQ55484
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal caethwasiaeth fodern a masnachu mewn pobl? OQ55510
3. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010? OQ55519
4. Sut y bydd polisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru fwy cyfartal yn esblygu yn dilyn y profiad COVID-19? OQ55525
6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cymorth i grwpiau gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r gymuned fyddar? OQ55482
7. Faint o safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru sydd â digon o fand eang er mwyn darparu modd o ddysgu yn y cartref i blant pe bai rhagor o gyfyngiadau symud yn cael eu cyflwyno yn y...
Felly, y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
[Anghlywadwy.]—yr egwyl fer honno, a chydag eitem 3 ar ein hagenda ni'r prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Addysg ar ailagor ysgolion. Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.
Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gynllun diogelu'r gaeaf. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Vaughan Gething.
Yr eitem nesaf o fusnes yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar dai, tlodi a chymunedau a dwi'n galw ar y Gweinidog hynny i wneud y datganiad. Julie James.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd—Bil marchnad fewnol y DU—a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog...
Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu capasiti profi COVID-19 yng Nghymru?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia