Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 15 Medi 2020.
Wel, Llywydd, rydym ni'n cynnal trafodaethau gyda'r maes awyr yng Nghaerdydd i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd ymarferol o gynnal profion yn y maes awyr ei hun. Ceir rhai materion ymarferol y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw yn hynny o beth, o ran yr amser y gallai fod yn rhaid i bobl aros mewn maes awyr, am ba hyd y byddai pobl yn barod i aros mewn maes awyr—ni allwch chi fynnu bod pobl yn gwneud y pethau hyn; mae'n fater o gymryd rhan yn wirfoddol. Felly, mae'n rhaid i chi dreulio ychydig o amser i wneud yn siŵr, os gallwch chi ddarparu profion mewn maes awyr, y gallwch chi wneud hynny mewn modd sy'n effeithiol, ac mae'r trafodaethau hynny gydag awdurdodau'r maes awyr yma yng Nghaerdydd yn parhau.