Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 15 Medi 2020.
Llywydd, nid wyf i'n credu ei bod hi'n anodd iawn dilyn y rheol chwech. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod yw bod coronafeirws yn cael ei drosglwyddo gan bobl sy'n cyfarfod y tu mewn i dai ei gilydd. Dyna sydd y tu ôl i'r trosglwyddiad yng Nghaerffili. Dyna sydd y tu ôl i'r trosglwyddiad mewn sawl rhan o Loegr. Ac er mwyn ceisio dod â'r sefyllfa yn ôl dan reolaeth, yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig yng Nghymru yw na ddylai mwy na chwech o bobl gyfarfod dan do ar unrhyw un adeg; mae'n cyfyngu ar y gadwyn drosglwyddo. Mae mor syml â hynny. A phan fo cadwyni trosglwyddo yn cynyddu ffigurau pobl sy'n dioddef o coronafeirws mewn rhannau helaeth o Gymru, ac yn gwneud hynny mewn ffordd eithaf brawychus, yna mae'n bwysig iawn bod y Llywodraeth yn gweithredu i ddod â hynny yn ôl dan reolaeth.
Mae gennym ni drefn fwy rhyddfrydol yma yng Nghymru nag mewn mannau eraill gan y gall pedair aelwyd ffurfio un aelwyd estynedig, ac mae hynny ynddo'i hun yn cynnig ymbarél sy'n helpu i darfu ar gadwyni trosglwyddo, ond ni ddylai mwy na chwech o'r bobl hynny gyfarfod ar unrhyw un adeg. Byddwn yn caniatáu i blant oedran ysgol gynradd fod yn rhan o'r aelwyd honno y tu hwnt i'r chwech oherwydd y dystiolaeth nad yw'r plant hynny yn dioddef o coronafeirws ac nad ydyn nhw'n trosglwyddo coronafeirws yn y ffordd y mae oedolion yn ei wneud. Mae'n ymgais gymesur i geisio peidio ag ymyrryd â rhyddid pobl yn fwy na'r hyn sy'n angenrheidiol, ond gwneud y lleiaf sy'n angenrheidiol i fynd i'r afael â'r cynnydd i'r coronafeirws yr ydym ni'n ei weld mewn gormod o rannau o Gymru.
O ran gorchuddion wyneb, yn ein cynllun cyfyngiadau symud lleol, a gyhoeddwyd hefyd yng nghanol mis Awst, Llywydd, dywedasom, pe byddai cylchrediad y feirws yng Nghymru yn symud y tu hwnt i drothwy penodol, y byddem ni'n ailystyried ein cyngor ar orchuddion wyneb. Ddiwedd yr wythnos diwethaf, aeth y gyfradd yng Nghymru i 20 o bob 100,000 o'r boblogaeth, ac mae wedi aros yn uwch nag 20 byth ers hynny. Ugain yw'r ffigur yr ydym ni'n ei ddefnyddio i nodi gwledydd tramor lle os ydych chi wedi bod dramor a bod yn rhaid i chi ddychwelyd i'r Deyrnas Unedig, mae'n rhaid i chi hunanynysu. Roedd hon yn ymddangos i mi unwaith eto yn ffordd gymesur o nodi'r trothwy anffodus hwnnw y dylem ni ofyn i bobl yng Nghymru wneud y peth ymylol hwnnw, oherwydd pan fyddwch chi'n cyrraedd cylchrediad y feirws ar y lefel honno, mae darnau ymylol o gymorth sy'n ein cynorthwyo ni i gyd i'w gadw dan reolaeth a'i yrru at i lawr yn dod yn werth chweil.