Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 15 Medi 2020.
Llywydd, cafwyd cynnydd sylweddol i nifer yr achosion o coronafeirws yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddechrau'r wythnos diwethaf, mewn termau absoliwt ac fel cyfran o'r bobl a brofwyd. Ar 8 Medi, yn dilyn cais gan awdurdodau cyhoeddus, cyflwynodd Gweinidogion fesurau i reoli'r feirws ac i ddiogelu iechyd y cyhoedd.