Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 15 Medi 2020.
Dirprwy Weinidog, diolch yn fawr iawn am yr ateb yna a'r cam blaengar iawn hwnnw sy'n cael ei gymryd. Byddwch yn gwybod bod merched a menywod, yn hanesyddol, wedi bod yn llai tebygol yn draddodiadol mewn ysgolion a sefydliadau addysg o ymgymryd â'r pynciau STEM—y wyddoniaeth, y dechnoleg, peirianneg a mathemateg. Ac rydych chi eich hun wedi bod yn eiriolwr brwd dros gau'r bwlch anghydraddoldeb hwnnw sydd wedi bodoli. Nawr, yn ystod argyfwng COVID, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw'r nifer anhygoel o wyddonwyr benywaidd sydd wir wedi bod ar flaen y gad o ran ymchwil ac arloesi. Rwy'n meddwl tybed pa syniadau y gallai fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru eu defnyddio fel enghraifft ar gyfer ysgogi a hyrwyddo'r nifer gynyddol o ferched a menywod sy'n astudio'r pynciau STEM yn y dyfodol.