Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 15 Medi 2020.
Felly, o'r hyn rydych chi'n ei ddweud, Gweinidog, rwy'n deall nad oes gan hanner y safleoedd Sipsiwn a Theithwyr fand eang i alluogi disgyblion i fynd at y cwricwlwm os na allan nhw fynychu'r ysgol oherwydd cyfyngiadau symud pellach. Pa sgyrsiau ydych chi wedi'u cael â'r Gweinidog llywodraeth leol, ac yn wir y Gweinidog addysg, i sicrhau bod hyn yn brif flaenoriaeth i awdurdodau lleol, o gofio bod eich adran wedi sicrhau bod arian ar gael yn benodol at y diben hwn? Mae'n siomedig nad yw'r gwaith hwn wedi'i wneud yn ystod yr haf ar ôl i'r cyfyngiadau symud gael eu llacio. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn os byddai'n bosibl cyhoeddi'r safleoedd nad oes ganddyn nhw fand eang o gwbl o hyd.