Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 15 Medi 2020.
Diolchaf i'r Gweinidog am yr ymateb yna. Er mwyn ei roi ar y cofnod, mae fy chwaer yn hollol fyddar, ac rwyf i hefyd yn llywydd Grŵp Trwm eu Clyw Abertawe. Mae COVID wedi cael effaith ddifrifol ar y gymuned pobl fyddar, gan fod masgiau yn atal gallu pobl fyddar i ddarllen gwefusau, neu hyd yn oed gwybod bod rhywun yn siarad â nhw. Beth sy'n cael ei wneud i hyrwyddo iaith arwyddion a dehonglwyr iaith arwyddion i gynorthwyo'r gymuned pobl fyddar?