3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 15 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 4:05, 15 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, a hoffwn roi ar gofnod fy niolch nid yn unig i staff yr ysgolion, ond staff mewn AALlau hefyd sydd wedi gweithio'n galed iawn i gael y plant yn ôl yn yr ysgolion? Mae'n hyfryd iawn eu gweld nhw'n ôl yno.

Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ein sicrhau eich bod yn cael trafodaethau rheolaidd iawn gyda'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â mater profion. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, cafwyd rhai pryderon yn lleol ynglŷn â'r gallu i gynnal profion ar blant a phobl ifanc drwy labordai goleudy Llywodraeth y DU, felly fe fyddwn i'n ddiolchgar pe gallech chi roi sicrwydd i mi y byddwch chi'n parhau i drafod hynny gyda'r Gweinidog Iechyd ac y bydd y ddau ohonoch chi'n parhau i bwysleisio gerbron Llywodraeth y DU pa mor hanfodol yw hi fod y system brofi ar waith i ymateb yn gyflym i'r problemau hyn.

Roeddwn i'n falch o weld y pwyslais ar lesiant yn eich datganiad a'ch canllawiau ailagor, ac yn amlwg fe glywais eich ateb i Jenny Rathbone. Fe hoffwn i ofyn i chi, serch hynny, sut ydych chi'n bwriadu gwneud yn siŵr fod pob ysgol yn croesawu'r angen am flaenoriaethu llesiant? A hefyd sut rydych chi am sicrhau bod yr arian, ac mae'r arian a ddyrannwyd yn swm sylweddol, yn cael ei wario mewn ffordd sy'n briodol i gefnogi plant a phobl ifanc, yn enwedig mewn cysylltiad â'r pryderon yr ydych wedi tynnu sylw atynt, ac fe wyddoch fod y pwyllgor yn eu rhannu, am yr angen i gael ymyriadau priodol ar gyfer plant ifanc yn arbennig.

Ac yn olaf, fe hoffwn i ddweud mai un o brif bryderon y pwyllgor yn ystod y cyfnod clo oedd yr effaith ar blant yn y dirgel a phlant a oedd o bosibl yn dioddef camdriniaeth ac esgeulustod yn y cartref ond nad oedd hynny'n hysbys i'r gwasanaethau. Rwy'n croesawu taflen ddiweddar Llywodraeth Cymru—