9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mesurau i Atal COVID-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 16 Medi 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 5:33, 16 Medi 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, roeddwn yn mynd i ddechrau'r cyfraniad hwn drwy groesawu'r consensws a oedd yn lledu ar draws y Siambr, ond nid wyf yn siŵr fod hynny'n briodol yn awr. Ond fel y dywedodd Paul Davies yn ei sylwadau yn gynharach—ei sylwadau agoriadol—rydym i gyd yn unfryd yma o ran ein dymuniad i weld y pandemig yn cael ei drechu mor gyflym ac mor ddiogel ag sy'n bosibl, a'r cyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted ac mor ddiogel ag sy'n bosibl.

Mae llawer o'r pwyntiau roeddwn yn mynd i'w gwneud wedi'u gwneud, ac fe'm hatgoffir o'r hen ymadrodd fod y ceffyl wedi dianc, ac yn amlwg, mae digwyddiadau wedi goddiweddyd rhan gyntaf y cynnig hwn, o leiaf. Fodd bynnag, erys y teimladau sy'n sail i'r cynnig, ac rwy'n falch hyd yn hyn—. Datblygodd consensws ynglŷn â'r gofyniad newydd i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac yn wir, i wneud popeth yn ein gallu i roi rhagofalon ar waith i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19.

Rhannwyd ein cynnig yn dair rhan, pob un wedi'i lunio i fynd i'r afael â'r broblem sydd ger ein bron ac i ddarparu camau cadarnhaol i ymdrin â'r pandemig hwn. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth yn awr y bydd ail ymchwydd o achosion. Mae eisoes yn digwydd mewn mannau ledled Cymru. Cawsom gyfyngiadau lleol yng Nghaerffili eisoes, a heddiw cawn y newyddion am gyfyngiadau yn Rhondda Cynon Taf. Y cwestiwn yn awr, a bob amser wedi bod, yw: pa mor fawr fydd yr ail ymchwydd, ac a fydd nifer yr achosion yn trosi'n dderbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau? Mae'n amlwg nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd. Beth bynnag, er fy mod yn credu bod rhai dadleuon yn y dyddiau cynnar iawn—y dyddiau cynnar iawn—dros beidio â chyflwyno gorchuddion wyneb yn rhy fuan—h.y. , fel y crybwyllwyd, yr angen i bwyso a mesur manteision masgiau yn erbyn y problemau posibl, megis pobl yn cael ymdeimlad ffug o ddiogelwch—mae'r pendil bellach wedi gwyro'n glir o blaid gorchuddion wyneb ers peth amser, ac rydym ni ar y meinciau hyn wrth ein boddau fod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi'r camau hyn ar waith. Nid dyma'r ateb cyflawn, ond maent yn rhan ohono, ac mae hwn yn gam ymlaen.

Y gwir amdani yw ein bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus, ac mae gan hyn oblygiadau parhaus i'n heconomi a bywoliaeth pobl. Rwyf bob amser wedi cydnabod ar hyd y ffordd fod cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru nid yn unig i lacio'r cyfyngiadau symud cyn gynted ag y gall, ond i roi iechyd pobl yn gyntaf, ac mae'n ymddangos i mi, drwy'r ddadl hon a'r camau sy'n cael eu cymryd, fod hynny'n cael ei barchu.

Mae ail ran ein cynnig yn cydnabod bod gan gyfyngiadau symud cenedlaethol oblygiadau enfawr i'r economi a busnesau, felly os gallwn osgoi hynny a chael cyfyngiadau lleol yn lle hynny, mae'n amlwg fod hynny'n beth da. Wrth gwrs, mewn byd delfrydol, ni fyddai'n rhaid inni gael unrhyw gyfyngiadau o gwbl, ond nid ydym yn byw yn y fan honno ar hyn o bryd, ac nid ydym wedi bod yn byw mewn byd felly ers peth amser. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu ymdrechion i ailagor yr economi, er y bu anghysondebau mewn rhai achosion. Gellid bod wedi agor y sector twristiaeth yn gyflymach gyda mwy o gefnogaeth yn gynharach. Yn fy ardal i, mae nifer o fusnesau ar hyd camlas Sir Fynwy a Brycheiniog a busnesau cysylltiedig yn dal i fod ofn colli eu bywoliaeth oherwydd elfen dymhorol eu busnesau, ond dyma'r sefyllfa rydym ynddi.

Mae trydedd ran ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno profion COVID ar gyfer pob teithiwr sy'n dod i Gymru o dramor. Credwn fod hyn yn amlwg yn synhwyrol. Mae'r Gweinidog iechyd ei hun wedi dweud bod y cynnydd diweddar mewn achosion yng Nghaerffili yn rhannol gysylltiedig â phobl sy'n dychwelyd o'u gwyliau, gan beri i'r feirws ledaenu yn y gymuned. Gwyddom fod rhai o'r teithwyr a oedd wedi bod ar awyren o Zante wedi cymdeithasu ag eraill. Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Brifysgolion Rhydychen a Chaeredin fod nifer sylweddol o achosion yn cael eu cludo i mewn i'r DU o Ewrop. Mae'n ddigon posibl y bydd hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru am ymchwilio ymhellach iddo; credwn y byddai hynny'n syniad da. Mae arnom angen mecanwaith profi cadarn i ymdrin â hyn i gyd, felly pam nad yw cynllun rheoli coronafeirws y Llywodraeth yn cynnwys strategaeth ar gyfer cynnal profion mewn meysydd awyr? Mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi dadlau'r achos dros hynny heddiw, ac rwy'n ategu'r achos dros wneud hynny. Mae angen inni gynyddu ein capasiti profi.

Yn y bôn, cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi hyder i bobl Cymru yw hwn, i ddiogelu bywydau a bywoliaeth drwy roi camau brys ar waith i leihau maint unrhyw ail ymchwydd, ac i weithredu mesurau a fydd yn ein galluogi i agor yr economi'n ddiogel.