Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 16 Medi 2020.
Mae gwisgo masg yn ddiogel yn ffactor pwysig. Mae hynny'n cynnwys gwisgo a diosg masgiau hefyd, ac mae her wirioneddol, nid yn unig o ran pa fath o orchudd i'w wisgo, ond i'n hatgoffa ein hunain, pan fyddwch yn diosg y gorchudd wyneb, os oes gennych COVID, eich bod yn debygol o'i ledaenu. Mae perygl i hynny ddigwydd pan fyddwch yn ei wisgo hefyd. Mae hyn yn anodd, ond mae'n bwysig iawn i bob un ohonom, a chredaf y bydd angen i'r Aelodau etholedig osod y math o esiampl rydym am i'r cyhoedd ei dilyn.
Mewn ysgolion, rydym wedi cyhoeddi cyngor clir gan ein grŵp cynghori technegol, ac mae hynny wedi galluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i wneud penderfyniadau eisoes ynglŷn â gorchuddion wyneb mewn rhannau o'u hysgolion lle nad yw'n bosibl gorfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol. Gwyddom fod gwahanol ystadau ysgol yn wynebu gwahanol heriau.
Nodir ein dull o ddefnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19 yn 'Cynllun Rheoli'r Coronafeirws ar gyfer Cymru'. A byddwn yn dweud yn garedig wrth Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig eu bod mewn perygl o wneud i'w hunain edrych braidd yn ffôl pan fyddant yn mynd yn ôl at sylwadau a wnaed gan y Gweinidog cyllid ddiwedd mis Mai, pan oeddem yn llacio'r cyfyngiadau symud, yn hytrach na'r ffaith ein bod wedi cyhoeddi cynllun rheoli'r coronafeirws fwy na thri mis yn ddiweddarach sy'n nodi meini prawf clir i ni roi camau lleol ar waith, yn union fel y gwnaethom eisoes mewn dwy ardal awdurdod lleol.
Yng Nghymru, mae gennym system sefydledig ar gyfer dod â'r holl asiantaethau lleol perthnasol at ei gilydd drwy ein timau rheoli digwyddiadau a'n timau rheoli achosion. Mae gennym hefyd wasanaeth profi, olrhain a diogelu sy'n perfformio'n dda i gefnogi'r broses honno. Mae hynny wedi ein galluogi i nodi a deall clystyrau o achosion yn gyflym ac i gymryd camau penodol wedi'u targedu, o amgylch gweithle neu leoliad penodol er enghraifft. Felly, mae hynny'n gweithredu fel proses glyfar i gyfyngu symud, ac atgoffaf yr Aelodau eto, pan welsom gynnydd sylweddol yn Ynys Môn, yn Wrecsam, ym Merthyr Tudful, a phrofi sylweddol mewn ardaloedd o Flaenau Gwent a ledled y wlad, digwyddodd hynny oherwydd y wybodaeth a oedd gennym a'n gallu i ddefnyddio adnoddau profi'n gyflym lle roedd eu hangen i ddeall lledaeniad y coronafeirws, ac i beidio â gorfod cymryd camau mwy sylweddol yn y gymuned wedyn. Dyna'r ffordd rydym eisiau gweithredu o hyd. Ond lle gwelwn drosglwyddiad cymunedol ehangach mewn ardaloedd, rydym wedi cyflwyno mesurau i fynd i'r afael ag ardaloedd yn benodol.
Nid oes yr un ohonom am ddychwelyd at y cyfyngiadau symud a wynebwyd gennym ym mis Mawrth. Rydym i gyd yn gwneud popeth yn ein gallu i osgoi camau mwy eithafol ledled Cymru, ond mae angen inni ddeall y cyd-destun. Mae gwledydd eraill y DU yn gweld cynnydd eto yng nghyfraddau coronafeirws, yn yr un modd â gwledydd eraill ledled Ewrop. Y realiti yw efallai na fydd hi'n bosibl osgoi mesurau cenedlaethol. Dyna pam rwy'n dweud eto, bydd y Llywodraeth a'n gwasanaeth iechyd yn gwneud ein rhan; mae'n bwysig fod y cyhoedd i gyd yn cydnabod bod gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud.
Ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd y grŵp cynghori technegol gyngor ar brofi teithwyr ac fe'i cyhoeddwyd. Mae'n argymell ein bod yn gweithio ledled y DU rhwng y pedair gwlad i alluogi mynediad at brofion i bobl sy'n teithio o wledydd sydd â chyfradd uwch o achosion o COVID-19. Wrth gwrs, mae'n cydnabod y bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n teithio'n rhyngwladol o Gymru yn gwneud hynny drwy lwybrau heblaw Caerdydd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, mae cwestiynau ymarferol i'w datrys ynglŷn â chynnal profion ym Maes Awyr Caerdydd. Byddai'n amlwg yn well gennyf allu gwneud hynny. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau nad ydym yn tyrru teithwyr at ei gilydd a bod gennym ddisgwyliadau clir ynglŷn â pha mor hir y gall fod angen i bobl aros o fewn y maes awyr; nad ydym yn cymysgu grwpiau o deithwyr o wahanol deithiau awyr—mae llawer ohonom wedi arfer bod yn yr un lle i gasglu bagiau â phobl o wahanol deithiau awyr—a'n bod yn gwahanu teithiau awyr y gallem fod am eu profi yn eglur; a bod lle ar ystad y maes awyr ar gyfer cynnal profion.
Yn ymarferol, rydym eisoes wedi bod yn profi pobl yn rheolaidd pan fyddant wedi dod adref o deithiau awyren o Zante, gyda lefelau uchel iawn o gydymffurfiaeth, ac mae hynny wedi ein galluogi i ddeall lledaeniad coronafeirws ar y teithiau awyr hynny ac yn y lleoliadau hynny. Hyd yn oed pan fydd teithio tramor yn dod ag achosion i Gymru, at ei gilydd, ymddygiad pobl tra'u bod ar wyliau sydd wedi peryglu eraill, gan gynnwys cyd-deithwyr ar awyrennau. Nid yw profi ar ddiwrnod 1 a diwrnod 8 yn ddewis amgen yn lle cwarantin. Byddwn yn parhau i adolygu a mireinio ein dull o weithredu er mwyn adlewyrchu'r newidiadau yn y ffordd y mae'r feirws yn lledaenu yng Nghymru; ein dealltwriaeth o ba ymyriadau sy'n gweithio orau; sut rydym ni fel unigolion, teuluoedd a chymunedau yn ymateb; ac unrhyw ddatblygiadau yn y dystiolaeth wyddonol. Felly, rhaid inni fod yn barod i newid ein safbwynt os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod yna wahanol gamau gweithredu y dylem eu cymryd.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n gysylltiedig ag oedi wrth brofi mewn labordai goleudy. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatrys y problemau cyn gynted â phosibl. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd iechyd y DU ac wedi siarad ag ef am hyn yn uniongyrchol, ac mae hefyd yn amlwg i mi y dylid ateb heriau a chwestiynau am flaenoriaethu capasiti ar gyfer Cymru gyda ni, nid gwneud hynny ar ein rhan. Mae capasiti labordy Cymru eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymateb yn gyflym i achosion a digwyddiadau ac ar gyfer GIG Cymru. Rydym yn gweithio ar frys gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n GIG ar ddefnyddio a blaenoriaethu'r defnydd o gapasiti labordy Cymru wrth i ni weld y pwysau a'r galw'n cynyddu yma a ledled y DU.
Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £32 miliwn yn ddiweddar er mwyn cyflymu amseroedd profi yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i ddarparu capasiti ychwanegol. Bydd hyn yn talu am staff ac offer ychwanegol ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru allu rhedeg labordai rhanbarthol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Glan Clwyd. Byddant wedyn yn gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a disgwylir y gweithgarwch hwnnw o fis Hydref ymlaen. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n bosibl creu chwe labordy brys mewn ysbytai acíwt ledled Cymru gydag offer profi o dan bedair awr. Byddant yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos o fis Tachwedd ymlaen.
Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i gymryd cyngor ein gwyddonwyr ac yn chwarae rhan weithredol mewn trafodaethau gyda chydweithwyr ledled y DU i weithredu atebion sy'n rhoi'r cyfle gorau i atal y feirws ledled Cymru ac i achub cymaint o fywydau ag sy'n bosibl. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae a mater i bob un ohonom yw gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel.